Gwobrwyo, Buddion a Llesiant
Yn Ofcom, rydyn ni’n gwerthfawrogi ein cydweithwyr am bwy ydyn nhw. Fel rhan o hyn, rydyn ni’n cydnabod bod gan bawb eu hanghenion eu hunain o ran gwobrwyo, buddion a llesiant.
Mae buddion yn rhan bwysig o becynnau gwobrwyo Ofcom. Rydyn ni’n credu mewn rhoi buddion i’n gweithwyr i’w cefnogi ar yr un pryd â darparu’r hyblygrwydd sydd ei angen i ddylunio pecyn buddion sy’n darparu ar gyfer eu hanghenion a’u dewisiadau unigol nhw.

Buddion craidd i bob cydweithiwr
Rydyn ni’n cynnig buddion safonol i bawb.
Yswiriant meddygol preifat
Mae pob cydweithiwr yn cael yswiriant meddygol preifat fel mater o drefn, sy’n rhoi mynediad at ddiagnosis a thriniaeth feddygol brydlon. Mae cydweithwyr ar raddfa Pennaeth ac uwch yn derbyn sicrwydd lefel teulu fel rhan o’r budd hwn.
Pensiwn
I’ch helpu i gynllunio ar gyfer eich dyfodol, mae Ofcom yn cynnig trefniant pensiwn hyblyg gyda chyfraniad cyflogwr o 8%, sy’n codi i 12% ar gyfer graddfa Pennaeth a 15% ar gyfer graddfa Cyfarwyddwr.
26 diwrnod o wyliau blynyddol
Mae cydweithwyr yn cael 25 diwrnod o wyliau fel mater o drefn i wneud yn siŵr bod amser i orffwys ac adfywio. Byddwch chi hefyd yn cael diwrnod ychwanegol i ffwrdd ar gyfer eich pen-blwydd.
Gwarchodaeth incwm grŵp
Rydyn ni’n darparu amddiffyniad incwm grŵp ar 66% o’r cyflog, er mwyn darparu cymorth ariannol os nad ydych chi’n gallu gweithio oherwydd salwch neu anaf..
Sgrinio iechyd
Mae gan holl gydweithwyr Ofcom hawl i gael archwiliad iechyd cynhwysfawr blynyddol i helpu i gefnogi eu hiechyd a’u llesiant.
Yswiriant bywyd
Rydyn ni’n darparu Yswiriant Bywyd ar 10 gwaith y cyflog, gan roi tawelwch meddwl i chi y bydd gan eich teulu sicrwydd ariannol pan fydd ei angen fwyaf.
Lwfans arian hyblyg
Rydyn ni’n deall bod amgylchiadau pawb yn wahanol. Felly, rydyn ni’n darparu lwfans arian parod i gydweithwyr er mwyn galluogi hyblygrwydd o ran buddion prynu sy’n addas i’w hanghenion nhw a’u ffordd o fyw.
Bonws Ofcom
Mae bonws Ofcom yn ddewisol, ac mae’n seiliedig ar berfformiad ar draws y sefydliad. Mae wedi’i ddylunio yn unol ag egwyddorion symlrwydd, tryloywder a thegwch.

Buddion ychwanegol
Dyma’r buddion y gallwch ddewis ohonynt, yn gyfnewid am gyfran o’ch cyflog, canran o’ch lwfans hyblyg, neu drwy ddiwygio’ch buddion safonol.
- Yswiriant deintyddol
- Prynu neu werthu gwyliau
- Yswiriant salwch difrifol ar eich cyfer chi a’ch partner
- Yswiriant damwain personol ar eich cyfer chi a’ch partner
- Benthyciadau ar gyfer tocynnau tymor
- Yswiriant teithio
- Yswiriant optegol
- Aelodaeth ratach o’r gampfa
- Rhoi wrth i chi ennill (GAYE)
- Aelodaeth a thanysgrifiadau proffesiynol
- Uwchraddio yswiriant meddygol preifat ar gyfer partner/teulu
- Uwchraddio sgriniadau iechyd
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Talebau adwerthu
- Yswiriant bywyd – uwchraddio i bartneriaid
- Profion llygaid
- Cerdyn blasu a chlwb coffi

Uwchlaw a’r tu hwnt i’ch pecyn buddion
Ochr yn ochr â’n buddion craidd ac ychwanegol, rydyn ni’n cynnig llawer o gymorth arall sy’n helpu i wneud Ofcom yn lle gwych i weithio.

Rhaglen cymorth i weithwyr
Mae ein rhaglen cymorth i weithwyr yn rhoi cyngor cyfrinachol am ddim i gydweithwyr a’u teuluoedd, naill ai dros y ffôn, ar-lein neu wyneb yn wyneb. Mae’r gwasanaeth yn darparu cwnsela, yn ogystal â chefnogaeth ar amrywiaeth o faterion fel dyled, materion cyfreithiol, neu berthnasoedd.
Cymorth iechyd meddwl AXA
Mae ein pecyn yswiriant meddygol preifat yn cynnwys darpariaeth iechyd meddwl sy’n galluogi cydweithwyr i gael mynediad prydlon at gymorth a thriniaeth heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu.
Swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl
Mae gennym grŵp amrywiol o swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl ym mhob un o leoliadau Ofcom. Maen nhw wedi ymrwymo i wrando ar unrhyw un a fyddai’n hoffi siarad â rhywun, ac i’w cefnogi.

Thrive
Mae pob cydweithiwr yn cael mynediad am ddim at ap lles meddyliol Thrive, sydd wedi cael ei gymeradwyo gan y GIG ac sy’n darparu adnoddau i reoli eich llesiant meddyliol. Gall cydweithwyr ddilyn rhaglen therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) byr, yn ogystal â chael mynediad at raglenni ymlacio ac anadlu’n bwyllog.
Absenoldeb i wirfoddoli
Mae gan gydweithwyr yn Ofcom hawl i bum diwrnod o wyliau gwirfoddoli bob blwyddyn, nid yn unig i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned neu ar achos elusennol, ond i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w llesiant eu hunain.

Meddyg teulu dros y we ac ail farn feddygol
Mae cydweithwyr a’u teuluoedd yn gallu cael mynediad at feddyg teulu rhithiol sydd ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn, sy’n darparu cyngor meddygol, presgripsiynau ac atgyfeiriadau. Gall y gwasanaeth ail farn feddygol ddarparu gwybodaeth atodol am diagnosis.

Calm
Mae pob cydweithiwr yn cael mynediad am ddim at Calm, sef ap ymwybyddiaeth ofalgar sy’n cynnig mynediad at gannoedd o fyfyrdodau tywys ar bynciau fel gorbryder, cynhyrchiant, cwsg, chwaraeon ac iechyd corfforol, perthnasoedd a hyd yn oed cynnwys ar gyfer plant. Gall hyd at bum aelod o’r teulu ddefnyddio’r ap hefyd.


Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd
Mae diwylliant gweithle sy’n ystyriol o deuluoedd yn helpu i ddatgloi potensial rhieni. Yma yn Ofcom, rydyn ni’n ymdrechu i wneud yn siŵr bod diwylliant ein gweithle yn gynhwysol ac yn cefnogi ein dull gweithredu hyblyg sy’n ystyriol o deuluoedd. Mae gennym ni amrywiaeth eang o bolisïau – p’un a ydych chi’n mabwysiadu plentyn, â chyfrifoldebau gofalu, neu’n cael triniaethau ffrwythlondeb, rydyn ni eisiau i chi deimlo eich bod yn cael eich cefnogi.

Model gweithio hybrid
Mae gweithio’n hyblyg yn Ofcom yn cael ei yrru gan ein hegwyddorion gweithio cysylltiedig.
Yn Ofcom, rydyn ni’n croesawu’r gorau o ddau fyd—cydweithio wyneb yn wyneb a’r hyblygrwydd i weithio o bell. Mae amser wyneb yn wyneb yn allweddol i ddatrys problemau, dysgu, a meithrin perthnasoedd cryf, tra bo gweithio o bell yn cynnig hyblygrwydd i wahanol arddulliau gwaith ac anghenion tîm.
Rydyn ni’n credu bod treulio tua hanner ein hamser gyda’n gilydd yn y swyddfa yn taro’r cydbwysedd cywir ar gyfer ein llwyddiant a’n twf. Ond yn hytrach na gorfodi rheolau caeth, rydyn ni’n ymddiried ac yn grymuso ein timau i wneud y penderfyniadau gorau ynglŷn â ble a sut maen nhw’n gweithio.