Strategy & Research

Strategy & Research

Strategaeth ac Ymchwil Y grŵp

zoom in icon
circle icon

Mae’r grŵp Strategaeth ac Ymchwil yn cyfrannu at waith Ofcom drwy ddatblygu dealltwriaeth, rhoi cipolwg, a phennu cyfeiriad. 

Mae’r grŵp yn gosod strategaeth gyffredinol Ofcom ac yn casglu llawer o’r sylfaen dystiolaeth sy’n sail i’n gwaith polisi. Mae’r grŵp yn cydweithio ar draws Ofcom, gan helpu timau i feddwl yn strategol am benderfyniadau polisi a manteisio’n llawn ar ymchwil a data Ofcom. 

Y gwahanol dimau 

Mae tri thîm craidd yn y grŵp Strategaeth ac Ymchwil. 

Y tîm Ymchwil a Gwybodaeth  

Mae’r tîm hwn yn darparu ‘siop un stop’ ar gyfer tystiolaeth, gwybodaeth a dadansoddi’r farchnad. Mae’n gwneud yn siŵr bod gan Ofcom y dystiolaeth fwyaf cadarn a dibynadwy yn sail i’w raglen bolisi – sy’n helpu i ddarparu dealltwriaeth fanwl o’r marchnadoedd rydyn ni’n eu rheoleiddio a’r bobl rydyn ni’n gweithio iddynt.  

Mae ein gwaith ymchwil i’r farchnad yn rhoi dealltwriaeth fanwl i ni o’r ffordd mae pobl yn defnyddio gwasanaethau cyfathrebu a’u hagweddau tuag atynt. Mae hyn yn ein helpu i wneud yn siŵr bod eu buddiannau wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud. 

Ein gwaith i gael gwybodaeth am y farchnad yw sail ein gwaith polisi gyda dealltwriaeth drylwyr o’r marchnadoedd rydyn ni’n eu rheoleiddio. Mae’n cynnig data cadarn ar sut mae cwmnïau’n gwasanaethu eu defnyddwyr, y refeniw maent yn ei ennill a’r buddsoddiadau maen nhw’n eu gwneud. 

Y tîm rhyngwladol  

Mae’r tîm hwn yn ein helpu i gadw mewn cysylltiad â llunwyr polisïau, rheoleiddwyr, a grwpiau defnyddwyr a’r diwydiant ledled y byd.  

Ym mhob rhan o’n gwaith, mae’r tîm rhyngwladol yn ystyried y byd o’n cwmpas a’r hyn y mae hynny’n ei olygu i Ofcom. Mae ei waith yn helpu i ddylanwadu ar y canlynol:   

• datblygu polisïau rheoleiddio rhyngwladol a fframweithiau yn y DU ac yn fyd-eang; a  

• arferion rhyngwladol a phenderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan sefydliadau neu reoleiddwyr mewn awdurdodaethau eraill – yn enwedig y rheini sy’n effeithio ar bobl y DU yn y meysydd rydyn ni’n eu rheoleiddio.   

Rydyn ni hefyd yn defnyddio ein rhaglen cysylltiadau rhyngwladol i wneud yn siŵr bod gan Ofcom lais byd-eang, sy’n ein galluogi i gyflwyno gwybodaeth a safbwyntiau i gynulleidfa ryngwladol ehangach.

Y tîm Strategaeth a Pholisi  

Mae’r tîm hwn yn chwarae rhan allweddol wrth bennu cyfeiriad strategol Ofcom a gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni yn erbyn ein prif flaenoriaethau. Mae’n rhoi’r wybodaeth a’r dadansoddiad strategol y mae Ofcom eu hangen i ragweld heriau a chyfleoedd y dyfodol mewn sector cyfathrebu sy’n newid yn gyflym. 

Dyma rai o’i brif gyfrifoldebau: 

  • gwybodaeth am y farchnad a pholisïau – deall sut gallai’r sector cyfathrebu ddatblygu yn y dyfodol er mwyn cyfrannu at ein rhaglen bolisi ehangach; 
  • cyflawni blaenoriaethau strategol Ofcom – arwain prosiectau mawr sy’n pennu cyfeiriad rheoleiddio yn y sector yn y dyfodol; 
  • arwain agweddau ar faterion polisi sy’n dod i’r amlwg – gweithio ar y cyd â thimau eraill i bennu safbwynt Ofcom ar faterion sy’n dod i’r amlwg yn ymwneud â defnyddwyr, polisi cyhoeddus a chystadleuaeth; a 
  • strategaeth gorfforaethol Ofcom – gweithio gydag uwch reolwyr a’r Bwrdd i bennu strategaeth Ofcom, diffinio ei flaenoriaethau ac asesu’r ddarpariaeth.