Prentisiaethau
Mae ein rhaglenni prentisiaeth yn ffordd wych i chi ddechrau eich gyrfa, cael profiad ymarferol wrth astudio a chael cyflog.
Mae nifer o gymwysterau y gallwch weithio tuag atynt – ar hyn o bryd mae gennym brentisiaid ym maes Polisi, Gweinyddu Busnes, Cyllid, Dadansoddi Data, Seiberddiogelwch ac Economeg
Pa gymhwyster bynnag y byddwch yn ei ddewis, bydd yn cael ei ariannu’n llawn drwy’r ardoll brentisiaethau a’i ddarparu gan ddarparwr hyfforddiant arbenigol. Mae prentisiaethau’n amrywio o ran hyd a lefel ac fe’u cwblheir drwy gyfuniad o hyfforddiant yn y gwaith ac astudio, gyda chymorth 20% heb fod yn y gwaith
Drwy gydol eich prentisiaeth, byddwch yn cael dysgu a chymhwyso sgiliau newydd i’r swydd ac adeiladu portffolio o waith, cyn cwblhau asesiad terfynol.