ANABLEDD A CHYNHWYSIAD YN OFCOM

ANABLEDD A CHYNHWYSIAD YN OFCOM

ANABLEDD A CHYNHWYSIAD YN OFCOM

icon-person

Gweithle cynhwysol i bawb

“Mae cynnwys pobl ag anableddau yn flaenoriaeth allweddol o dan ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad. Rydym yn creu amgylchedd cynhwysol sy’n gwerthfawrogi’r cryfderau, y sgiliau a’r potensial amrywiol y mae ein holl gydweithwyr yn eu cynnig i Ofcom.
Mae ein hymrwymiad i gynnwys pobl anabl wedi’i wreiddio yn y ‘model cymdeithasol’, sy’n arddel bod unigolion ond yn cael eu hanablu gan yr amgylcheddau cymdeithasol a ffisegol sydd o’u cwmpas. Rydym eisiau darparu’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen i rymuso ein holl gydweithwyr i gyrraedd eu potensial llawn yn eu gyrfa”
Rydym yn gwybod nad oes ‘un ateb i bawb’ wrth ystyried ffyrdd o weithio. Dyna pam ein bod ni’n gwneud ein gorau i addasu eich trefniadau gweithio i gyd-fynd â’ch anghenion a darparu mynediad at y gefnogaeth, yr offer a’r dechnoleg sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus yn eich rôl.”

Suzanne S – Pennaeth Diwylliant ac Amrywiaeth

Addasiadau i’r gweithle

Rydym yn cynnig cyfleusterau hygyrch, technoleg gynorthwyol, gweithfannau wedi’u haddasu o bell neu yn y swyddfa, oriau gwaith hyblyg, a chymorth iechyd meddwl ochr yn ochr â llawer mwy i gefnogi ein cydweithwyr anabl sydd ag anghenion penodol i’w helpu i gyflawni eu swyddi’n effeithiol.
Rydym wedi cyflwyno nifer o welliannau, fel fideos â chapsiynau a nodweddion arddweud ac adnabod llais Windows gwell, i gefnogi cydweithwyr sydd â nam ar eu clyw yn ogystal â’r rheini sy’n niwroamrywiol ac a allai wynebu heriau o ran prosesu clywedol.

Gweithgor Hygyrchedd

Prif nod ein Gweithgor Hygyrchedd yw blaenoriaethu anghenion a phrofiadau unigolion anabl wrth lunio polisïau, gweithdrefnau ac arferion yn Ofcom. Mae’r ymrwymiad hwn yn ein harwain i weithredu mesurau wedi’u targedu gyda’r nod o wella cynhwysiad i bobl anabl.

Cynnig cyfweliad

Rydym yn rhan o gynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd Llywodraeth y DU. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i gynnig cyfweliadau i ymgeiswyr anabl sy’n bodloni meini prawf dethol sylfaenol y rôl fel yr amlinellir ym manyleb y swydd (oni bai ein bod, mewn amgylchiadau prin, yn derbyn nifer fawr o geisiadau ac yn gorfod cyfyngu ar gyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr anabl a rhai nad ydynt yn anabl fel ei gilydd).

Darllenwch fwy am y cynllun Anabledd yma


STRAEON EIN CYDWEITHWYR A’N CYMUNEDAU

Sophie M – Pennaeth y Gofrestrfa Gwybodaeth

“Rwy’n Bennaeth yn nhîm gorfodi Ofcom. Fel rhywun sydd â Dyslecsia a Dyspracsia, rydw i wir yn gwerthfawrogi dull Ofcom o ddatblygu ar sail cryfderau, a’r ystod eang o gymorth sydd ar gael i’m helpu i fod ar fy ngorau a chyrraedd potensial llawn fy ngyrfa. Mae addasiadau i fy ngweithle gartref ac yn y swyddfa yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran sut rydw i’n cyfrannu at waith Ofcom. Mae’r amgylchedd gwaith cefnogol yn golygu fy mod yn teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi a’m cynnwys, ac rwy’n teimlo’n gyfforddus yn gofyn am addasiadau eraill yn ôl yr angen.”

Gisela A – Uwch Swyddog, Goruchwylio Diogelwch Ar-lein

“Ymunais ag Ofcom drwy’r rhaglen ar gyfer dychwelwyr ar ôl chwe blynedd o seibiant gyrfa. Er gwaethaf yr her gychwynnol, gwelais yn ddigon cyflym fod Ofcom yn weithle croesawgar a chadarnhaol. Rwyf wedi datblygu’n broffesiynol ac rwyf bellach yn arwain tîm sy’n canolbwyntio ar wella diogelwch ar-lein yn y DU, ochr yn ochr â gwneud PhD mewn Busnes ar wneud penderfyniadau moesegol mewn busnesau technoleg newydd.
Rydw i hefyd yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, sydd, yn fy marn i, yn un o fy nghyfraniadau craidd tuag gyfrannu daioni at y gymdeithas, yn enwedig fel rhywun sydd wedi cael diagnosis o gyflyrau niwroamrywiol. Yn Ofcom, rydym yn cael ein hannog a’n cefnogi’n frwd, drwy weithio hyblyg ac addasiadau eraill, i fod yn driw i ni’n hunain yn y gwaith a chyflawni ein gwir botensial. Rwyf wedi mynd ati llawn i wneud hynny.”


SOUND – Ofcom’s disability colleague network

Mae ein rhwydwaith SOUND yn cefnogi cydweithwyr sydd â phrofiad uniongyrchol o fyw gyda chyflwr, salwch neu anabledd hirdymor, gan gynnwys y rhai sy’n niwroamrywiol. Mae’r rhwydwaith hwn yn helpu i wella ein dealltwriaeth o niwroamrywiaeth ac anabledd fel sefydliad – gan gefnogi ein hamcanion ehangach yn ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad, ac yn ein gwaith rheoleiddio.

Amy Jemmings – Aelod o Sound

“Nid yw anabledd a niwroamrywiaeth yn broblem y mae angen ei datrys; y rhwystrau sy’n cael eu creu i gydweithwyr anabl a niwroamrywiol y mae rhwydwaith SOUND eisiau eu dymchwel. Efallai y bydd rhai cydweithwyr yn addasu i fywyd yn y swyddfa, yn gweithio yn eu swyddi ac yn ymdrechu i ymaddasu i weithle niwronodweddiadol neu anhygyrch. Rydw i wedi gwneud hynny fy hun, gan fy mod i wedi sylweddoli bod dyspracsia yn effeithio arna i mewn mwy o ffyrdd na dim ond ‘bod yn drwsgl’. Mae bod yn rhan o rwydwaith SOUND yn rhoi cyffro mawr imi gan ei fod yn helpu cydweithwyr a’r sefydliad i ddysgu mwy am ei gilydd, heb i rywun orfod esgus bod yn rhywun nad ydyn nhw.”

Neil Breckons – Cyd-gadeirydd a Noddwr Rhwydwaith Sound

“Mae SOUND wedi ychwanegu llais at y côr o rwydweithiau eraill i gydweithwyr. Nid yn unig mae wedi caniatáu i ni gael ein clywed yn y ffordd unigryw y gall rhwydwaith gael ei glywed, ond rydym hefyd wedi cefnogi ein gilydd trwy rannu profiadau bywyd a bod yn gynghreiriaid. Yn SOUND, mae pawb wedi bod yn gynghreiriaid, ac rydym i gyd wedi cael ein profiadau bywyd ein hunain. Mae holl gydweithwyr Ofcom wedi cael eu croesawu; i rannu, i ddysgu, ac i fod yn rhan o’r sgwrs sydd wedi newid dealltwriaeth cydweithwyr o anabledd a niwroamrywiaeth.”

HYRWYDDWYR CYNHWYSIAD ANABLEDD

“Fel hyrwyddwyr anabledd, rydym wedi ymrwymo i wneud Ofcom yn lle cwbl gynhwysol a chroesawgar i weithio i’n cydweithwyr anabl a niwroamrywiol
Dyma daith lle rydym yn dysgu ac yn gwella wrth i ni fynd ymlaen, gan gael ein hysbrydoli gan fewnbwn a mewnwelediadau ein rhwydwaith SOUND neilltuol. Rydym yn mawr obeithio y byddwch yn awyddus i ymuno â ni.”

Lindsey Fussell ac Yih-Choung Teh, Uwch Arweinwyr Ofcom a Hyrwyddwyr Rhwydwaith SOUND


SUT YDYM YN GWNEUD PETHAU’N WAHANOL?

“Rydym wedi rhoi nifer o newidiadau allweddol ar waith i’n proses recriwtio ac i’n polisïau sy’n croesawu ymgeiswyr anabl i ymgeisio a gweithio gyda ni. Mae ein disgrifiadau swydd yn canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y rôl yn unig, ac yn defnyddio iaith gynhwysol, gan bwysleisio amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal. Mae’r gymuned sydd gennym yn cyflogi staff yn gyfarwydd iawn ag ymwybyddiaeth o anabledd ac yn rhagweithiol o ran cynnig darpariaethau angenrheidiol.
Drwy wrando ar adborth, gosod nodau, a chroesawu technoleg, rydym yn creu proses ddirwystr i bob ymgeisydd, ni waeth beth fo’i alluoedd neu ei gefndir.”

Ankita J- Uwch Reolwr – Trawsnewid Adnoddau a Llywodraethu

Trawsnewid ein polisïau

Rydym yn adolygu ein polisi addasiadau i’r gweithle yn barhaus i sicrhau ei fod yn mynd i’r afael â rhwystrau cynhwysiad yn effeithiol. Yn ogystal â hyn, rydym wedi trawsnewid nifer o’n polisïau sy’n ymwneud â gweithio’n hyblyg, rhannu swyddi, gweithio o bell, a theuluoedd i rymuso cydweithwyr anabl i ddiffinio eu ffyrdd eu hunain o weithio.

Asesu a dethol cynhwysol

Mae ein dull recriwtio cynhwysol yn canolbwyntio ar gyflawni proses gyflogi safonol, deg, hygyrch a dirwystr. Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig â recriwtio, gan gynnwys ein recriwtwyr a’n rheolwyr sy’n cyflogi yn Ofcom, yn ymddwyn yn gywir, ac rydym yn eu helpu i liniaru a goresgyn rhwystrau posibl.

Partneriaethau a chydweithio

Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau sy’n ein cefnogi yn ein huchelgais i fod yn gyflogwr o ddewis i bobl anabl. Mae’r rhain yn cynnwys y Fforwm Anabledd Busnes, Purple space ac Evenbreak.


Amrywiaeth a Chynhwysiad yn Ofcom

Yn Ofcom, gallwch fod yn chi eich hun. Mae gennym ni amgylchedd gwaith cynhwysol ac rydym yn gweithio’n galed i wella amrywiaeth yn ein sefydliad a hefyd yn y sectorau rydym yn eu rheoleiddio. Mae’n hanfodol wrth ein helpu ni i gyflawni ein nod o sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb.

Llesiant yn Ofcom

Roeddem yn falch iawn o weld ein rhaglen Thrive@Ofcom yn cael ei chydnabod drwy gael ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Menter Iechyd Meddwl Orau yng Ngwobrau Llesiant yn y Gweithle Prydain Fawr yn 2021, ac ar gyfer y Strategaeth Llesiant yn y Gweithle Orau (yn y sector cyhoeddus) ar gyfer 2022.
Mae hyn yn cydnabod ein hymdrechion i gynnig rhaglen gref o gefnogaeth i bawb yn Ofcom i reoli eu llesiant eu hunain mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.

Ein Rhwydwaith Cydweithwyr

Mae ein rhwydweithiau cydweithwyr yn grwpiau gwirfoddol, a arweinir gan weithwyr sy’n nodi eu hunaniaeth bersonol neu’n dangos ymgynghreiriad â nodwedd warchodedig benodol. Y rhwydweithiau yw llais torfol eu haelodau, gan godi ymwybyddiaeth o heriau a chyfleoedd amrywiaeth a chynhwysiad yn y sefydliad yn ehangach.

Adnoddau Gyrfa

Er y gallai’r broses amrywio ychydig yn dibynnu ar y rôl rydych chi wedi gwneud cais amdani, rydym yn dilyn dull tebyg o ran sut rydym yn dod i adnabod ein hymgeiswyr. Dyma rai o’r ffyrdd rydym yn asesu pobl sy’n mynd drwy ein proses gyflogi ynghyd â gwybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol

Siaradwch â’n tîm recriwtio

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei drin yn deg drwy gydol y broses ymgeisio a dethol, gan gynnwys gwneud ein proses mor hygyrch â phosibl.
Os bydd angen gwneud unrhyw addasiadau, cysylltwch â ni yn uniongyrchol yn [email protected] neu ffoniwch 0330 912 1378.