YN OFCOM, RYDYN NI’N SICRHAU CYFATHREBIADAU’N BOD GWEITHIO I BAWB
Mae rôl Ofcom yn un bwysig ac amrywiol. Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y gorau o’u band eang, eu ffôn cartref a’u gwasanaethau symudol, yn ogystal â chadw llygad ar y teledu a’r radio. Rydyn ni hefyd yn goruchwylio’r gwasanaeth post, ac yn rheoli’r sbectrwm radio. A chyn bo hir byddwn yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel.
Cadw pobl yn ddiogel
Drwy ein gwaith ym maes diogelwch ar-lein, rydyn ni’n cadw pobl yn ddiogel ar-lein. Rydyn ni’n amddiffyn pobl rhag triniaeth annheg, sgamiau, ac achosion o ymyrryd ar eu preifatrwydd. Rydyn ni’n darparu cyngor a gwybodaeth i filoedd o bobl bob blwyddyn, drwy ein gwefan a’n canolfan alwadau. Rydyn ni hefyd yn cofrestru cwynion gan bobl a busnesau, sy’n ein helpu i gymryd camau yn erbyn cwmnïau pan fyddant yn gadael eu cwsmeriaid i lawr.
Gwasanaethau band eang, ffôn, a symudol
Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y gorau o’u band eang, eu ffôn cartref a’u gwasanaethau symudol. Mae hyn yn cynnwys monitro newidiadau mewn costau a biliau, diogelu pobl rhag sgamiau a galwadau niwsans, a gwneud yn siŵr bod gan bobl fynediad i gysylltiad rhyngrwyd lle bynnag maen nhw’n byw.
Darlledu gwasanaethau teledu a radio
Mae’r Cod Darlledu yn nodi cyfres o egwyddorion a rheolau y mae’n rhaid i ddarlledwyr gwasanaethau teledu a radio gydymffurfio â nhw. Mae’r cod hwn yn sicrhau pethau fel didueddrwydd, rheolau yn ymwneud â darlledu yn ystod etholiadau a refferenda, ac amddiffyn pobl o dan 18 oed. Darllenwch God Darlledu llawn Ofcom.
Tonnau awyr
Rydyn ni’n gofalu am y tonnau awyr a ddefnyddir gan ddyfeisiau di-wifr fel ffonau di-wifr, walkie talkies a hyd yn oed rhai goriadau car a chlychau drws. Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod y sbectrwm radio’n cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl yn ogystal â rheoli defnydd dinasyddion o’r sbectrwm radio a mynd i’r afael â darlledu anghyfreithlon.
Gwasanaeth post
Rydyn ni’n goruchwylio’r gwasanaeth post cyffredinol, sy’n golygu bod rhaid i’r Post Brenhinol ddanfon a chasglu llythyrau chwe diwrnod yr wythnos, a pharseli bum niwrnod yr wythnos, am bris fforddiadwy ac unffurf ar draws y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n monitro’r gwasanaeth post ac yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar effeithlonrwydd, fforddiadwyedd a chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth.
Gwaith rhyngwladol
Dylanwadir yn helaeth ar ein gwaith yn Ofcom gan y datblygiadau diweddaraf yn y sector cyfathrebiadau. Gan fod cyfathrebiadau’n dod yn fwyfwy byd-eang eu natur, rydyn ni’n gweithio’n agos â sefydliadau rhyngwladol a rheoleiddwyr i sicrhau bod ein cylch gwaith yn cynnwys yr holl sianeli posibl sydd ar gael i gwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig a’n bod gam ar y blaen i fygythiadau seiberddiogelwch.