Pwy ydyn ni
Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU, rydyn ni’n cyflawni gwaith hanfodol sy’n helpu i gadw pobl mewn cysylltiad ledled y DU ac sy’n siapio’r ffordd y byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad â’n gilydd yn y dyfodol.
Mae ein gwaith yn cynnwys popeth o gadw defnyddwyr yn ddiogel ar-lein, i ffonau a band eang, teledu, radio, y gwasanaeth post, a dyfeisiau di-wifr. I’n helpu i gyflawni ein nod o sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb, mae arnom angen pobl o bob cefndir, gyda sgiliau amrywiol ac sydd wedi cael gwahanol brofiadau .
Rydyn ni’n gofalu am y tonnau awyr a ddefnyddir gan ddyfeisiau di-wifr fel ffonau di-wifr, walkie talkies a hyd yn oed rhai goriadau car a chlychau drws.
Rydyn ni hefyd yn helpu i wneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu twyllo a’u bod yn cael eu gwarchod rhag arferion drwg. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer pobl hŷn neu bobl agored i niwed.
BETH RYDYM YN EI WNEUD
Mae cylch gwaith Ofcom yn enfawr – o’r gwasanaethau hanfodol rydyn ni’n eu defnyddio bob dydd ac sy’n helpu i gadw’r wlad i symud, i dechnoleg newydd a datblygol. Dysgwch ragor am y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn Ofcom a’r gwasanaethau a’r llwyfannau amrywiol rydyn ni’n eu rheoleiddio.
EIN LLEOLIADAU
Mae ein pencadlys yn Llundain ond mae gennym swyddfeydd ledled y Deyrnas Unedig. Dysgwch fwy am ein lleoliadau ac edrych a oes man gwaith Ofcom sydd o ddiddordeb i chi.
RHAGOR O WYBODAETHEIN GWERTHOEDD
Rydyn ni, fel sefydliad, yn bodoli er mwyn sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb. Dysgwch fwy am y gwerthoedd rydyn ni’n eu hymgorffori fel sefydliad a gweld sut maen nhw’n effeithio ar ein ffordd o weithio