Rhaglen i raddedigion

Rhaglen i raddedigion

Rhaglen i raddedigion

Mae ein rhaglen dwy flynedd i raddedigion wedi ei llunio i roi cyflwyniad i chi i’r holl wahanol adrannau ac arbenigeddau rydyn ni’n eu cwmpasu yn Ofcom. Rydyn ni’n datblygu eich gwybodaeth ac yn rhoi profiad uniongyrchol i chi ar bopeth o bolisi ac ymchwil, i gyfathrebu a seiberddiogelwch.


Wrth i chi gymryd rhan yn ein rhaglen i raddedigion, byddwch yn dod i ddeall yn well sut mae ein gwaith yn cyd-fynd â pholisïau a chanllawiau seneddol. Byddwch yn cael cyfle i gefnogi uwch gydweithwyr wrth iddynt ymgysylltu â swyddogion y Llywodraeth o sectorau fel yr Adran dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).
Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu eich sgiliau ymchwil – dysgu technegau mesur cynulleidfaoedd a throsi data’n wybodaeth i helpu i oleuo adroddiadau mawr fel Adroddiad Blynyddol y BBC, neu adroddiadau Cyfryngau’r Genedl a Chyfryngau’r Genedl Ar-lein.
Gall graddedigion hefyd gymryd rhan yn ein gwaith yn cefnogi cwsmeriaid agored i niwed, yn ogystal â chyfleoedd i weithio yn swyddfeydd ein cenhedloedd i helpu i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar un rhan o’r Deyrnas Unedig.
Ar gyfer ein llwybrau arbenigol, mae gan raddedigion gyfle i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau technegol ac ymddygiadol yn eu dewis faes, gan adeiladu ar yr wybodaeth a’r sgiliau sydd ganddynt eisoes.
Fel un o raddedigion Ofcom, byddwch yn elwa o’n Cynllun Dysgu Gyrfaoedd Cynnar. Mae hon yn rhaglen ymbarél sy’n dod â’n holl gydweithwyr gyrfaoedd cynnar (gan gynnwys prentisiaid) at ei gilydd i fynychu diwrnodau Datblygu ffurfiol a hyfforddiant ychwanegol. Mae’r hyfforddiant ychwanegol hwn yn cynnwys sgiliau sy’n gysylltiedig ag Ofcom fel Rheoli Prosiectau, Llywodraethu ac Atebolrwydd, ac Ymchwil a Data, yn ogystal â delio â sgiliau eraill fel cynllunio, cyflwyno ac ysgrifennu. Rydyn ni hefyd yn rhoi cyfle i glywed gan arbenigwyr eraill yn y diwydiant a siaradwyr ysbrydoledig

Mae ceisiadau ar gyfer ein rhaglen i raddedigion ar gyfer 2023 yn awr yn agored..