Sut rydyn ni’n cyflogi

Sut rydyn ni’n cyflogi

Sut rydyn ni’n cyflogi

Rydyn ni wedi ffurfio partneriaeth ag Omni Resourcing Management Solutions, sy’n gweithio gyda ni i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael profiad gwych o’r drefn gyflogi o’r cyswllt cyntaf. 

Ar ôl i’ch cais ddod i law, bydd un o’n recriwtwyr yn ei adolygu i asesu a ydych chi’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf hynny, bydd ein recriwtiwr yn cysylltu â chi i drefnu cyfweliad anffurfiol dros y ffôn. 

Yn dibynnu ar ganlyniad y cyfweliad cychwynnol dros y ffôn, efallai y cewch eich gwahodd i’r cyfweliadau dilynol lle byddwn yn asesu eich cymwyseddau technegol ac ymddygiadol. 

Gwyliwch y fideo isod i gael gwybodaeth am sut i baratoi a beth i’w ddisgwyl. 

AMRYWIAETH a CHYNHWYSIANT YN OFCOM

Rydyn ni eisiau denu ymgeiswyr o gronfa dalent eang ac mae ein proses recriwtio wedi’i chynllunio i gynnwys pob ymgeisydd ac mae’n dilyn ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant. 

RHAGOR O WYBODAETH AM EIN HAGWEDD TUAG AT AMRYWIAETH A CHYNHWYSIANT

Cynllun Hyderus o ran Anabledd 

Rydyn ni wedi ymrwymo i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer rôl, a’u hystyried ar sail eu gallu. Nod yr ymrwymiad hwn yw annog pobl anabl i ymgeisio am swyddi drwy roi sicrwydd iddyn nhw y byddant yn cael cyfle i ddangos eu galluoedd yn y cyfweliad, os byddant yn bodloni’r meini prawf sylfaenol.

Yn Ofcom, ein nod yw cael proses ddethol sy’n deg ac yn gyfiawn ac yn seiliedig ar allu’r ymgeisydd yn unig a bydd eu rhinweddau unigol yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf ar gyfer y swydd.

Text BoxRydyn ni wedi gwneud ymrwymiad cadarnhaol i gyflogi pobl anabl a’n gobaith yw eu cefnogi yn ystod eu proses ymgeisio gyda’r cynllun hyderus o ran anabledd ac addasiadau rhesymol pan ofynnir amdanynt.

Beth rydyn ni’n ei olygu pan rydyn ni’n dweud meini prawf sylfaenol

Meini prawf sylfaenol yw’r gofynion hanfodol a amlinellir ym manyleb y swydd ar gyfer pob rôl.
Yn Ofcom, gallai gofynion hanfodol gynnwys cymwysterau, profiad a sgiliau ac maent yn cael eu sgorio ar raddfa o 1 i 5 ar sail lefel y dystiolaeth a ddarparwyd ar y cais. Er mwyn llwyddo yn y cam o lunio’r rhestr fer a chael eich gwahodd am gyfweliad cam cyntaf, dylai ymgeiswyr gael sgôr gyfun o 60% o gyfanswm y marciau posibl ar draws y gofynion hanfodol. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gwahodd ymgeiswyr sy’n cael sgôr o 1 yn unrhyw un o’r meini prawf hanfodol i ddod am gyfweliad.

Beth rydyn ni’n ei olygu pan rydyn ni’n dweud cyfweliad cam cyntaf

Gall cyfweliadau cam cyntaf yn Ofcom fod ar wahanol ffurfiau, yn dibynnu ar y rôl a’r ddisgyblaeth. Gallant gynnwys cyfweliad ffurfiol dros y ffôn gyda’r rheolwr sy’n penodi, cyfweliad fideo / cyflwyniad un-ffordd wedi’i recordio ymlaen llaw, cyfweliad fideo wyneb yn wyneb gyda’r rheolwr sy’n penodi neu gyfweliad panel gyda mwy nag un cydweithiwr. 

Addasiadau rhesymol 

Byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol ar gais yr ymgeisydd cyn y cyfweliad a’r trefniadau asesu. Gallwch siarad â’ch recriwtiwr neu anfon e-bost at dîm talent Ofcom yn resourcing@ofcom.org.uk neu ein ffonio ni ar 0330 912 1378 i ofyn am unrhyw addasiad drwy gydol y broses.