Business Groups

Business Groups

Ein grwpiau busnes

black bg

Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU, mae gennym dimau arbenigol sy’n ein helpu i reoleiddio popeth o amleddau radio i’r gwasanaeth post. Dysgwch fwy am bob un o’n grwpiau gwahanol.

Diogelwch Ar-lein

Rydyn ni’n newid y ffordd mae’r byd yn cadw’n ddiogel ar-lein. Wrth i’r Bil Diogelwch Ar-lein ddod yn realiti, mae angen arbenigwyr technegol arnom i’n helpu i roi’r drefn arloesol hon ar waith. Ac am y rheswm hwnnw’n unig, ni fu erioed amser mwy cyffrous i ymuno â ni.

Rhagor o wybodaeth

Technoleg, Data ac Arloesi

Mae grŵp Technoleg, Data ac Arloesi Ofcom yn trawsnewid y ffordd rydyn ni’n defnyddio data technegol a dadansoddol, ac ymwybyddiaeth o’r sector technoleg ehangach, i lywio ein gwaith rheoleiddio a pholisi.

Rhagor o wybodaeth

Cyfreithiol

Mae ein grŵp Cyfreithiol yn cynnwys arbenigwyr cyfreithiol a gorfodi. Mae ein tîm cyfreithiol yn rhoi cyngor a chymorth cyfreithiol i bob grŵp yn Ofcom wrth iddynt wneud eu gwaith. Mae’r Tîm Gorfodi yn gwneud yn siŵr bod y rheoliadau a’r polisïau rydyn ni’n eu rhoi ar waith i amddiffyn pobl yn effeithiol.

Rhagor o wybodaeth

Sbectrwm

Mae sbectrwm radio (y tonnau anweledig sy’n galluogi technoleg ddi-wifr) yn adnodd y mae pendraw iddo sy’n hanfodol i ddarparu ystod eang o gymwysiadau di-wifr sydd o fudd i wahanol ddefnyddwyr, a grŵp Sbectrwm Ofcom sy’n gyfrifol am sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio er budd pawb yn y DU.

Rhagor o wybodaeth

Corfforaethol

Mae ein grŵp corfforaethol yn chwarae rhan hollbwysig yn helpu Ofcom i redeg yn ddidrafferth ac mae’n cynnwys timau Cyfathrebu, TGCh, Llywodraethu ac Atebolrwydd, Cyllid, Pobl a Thrawsnewid, Polisi Cyhoeddus, Eiddo a Chyfleusterau. Mae pob un ohonynt yn sicrhau bod ein seilwaith a’n prosesau’n rhedeg yn ddidrafferth.

Rhagor o wybodaeth

Strategaeth ac ymchwil

Mae’r grŵp Strategaeth ac Ymchwil yn arwain y gwaith o osod strategaeth gyffredinol Ofcom, gan ddefnyddio canfyddiadau o’n gwaith ymchwil a dadansoddi o’r sectorau rydyn ni’n eu rheoleiddio. Mae’n helpu i wneud yn siŵr bod gennym sail tystiolaeth cadarn er mwyn blaenoriaethu ein gwaith a gwneud penderfyniadau a fydd yn helpu i sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb.

Rhagor o wybodaeth

Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau

Mae ein grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau yn helpu gwneud yn siŵr bod pobl ledled y DU yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt a bod y rhwydweithiau telegyfathrebu y maent yn dibynnu arnynt yn ddiogel. 

Rhagor o wybodaeth

Economeg a dadansoddeg

Mae natur gyfnewidiol y marchnadoedd rydyn ni’n eu goruchwylio yn golygu bod y rôl hon yn newid drwy’r amser, ac mae economeg yn darparu gwybodaeth hanfodol ar gyfer llawer o’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Mae’r grwpiau Economeg a Dadansoddeg yn hanfodol i wneud yn siŵr y seilir ein penderfyniadau ar ymchwil a dadansoddi cadarn. Mae economegwyr yn defnyddio syniadau cysyniadol arloesol ac ystod eang o ddulliau meintiol yn eu gwaith.

Rhagor o wybodaeth

Cynnwys a ddarlledir a chynnwys ar-lein

Mae’r Grŵp Darlledu a Chynnwys Ar-lein yn cefnogi ac yn gwasanaethu sector bywiog o gynulleidfaoedd o deledu i radio i fideo ar-alw. Mae ei waith yn helpu cyfryngau’r DU i esblygu i ddiwallu anghenion newidiol gwylwyr a gwrandawyr.

Rhagor o wybodaeth