Ein diwylliant

Ein diwylliant

Gweithio yn Ofcom

Rydyn ni’n gwneud gwaith cyffrous yn Ofcom ac, fel y diwydiannau rydyn ni’n eu rheoleiddio, mae’n symud yn gyflym ac yn newid yn gyson. Wrth i’r dirwedd cyfathrebu barhau i esblygu, rydyn ni’n gwneud yr un fath.  

Rydyn ni’n chwilio am bobl newydd sy’n gallu cynnig syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol. Dyma’r unig ffordd y gallwn ni barhau i gyflawni ein pwrpas craidd: sef sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb. 

Gweithio cysylltiedig 

Ein gweledigaeth ar gyfer gweithio hybrid yw grymuso cydweithwyr i weithio’n effeithiol gyda’i gilydd wyneb yn wyneb, ac mewn amryw o leoliadau. Rydyn ni’n credu mewn galluogi hyblygrwydd gan gydnabod gwerth cael cydweithwyr gyda’i gilydd, a diwallu anghenion y sefydliad, ein timau a ni ein hunain. 

Rydyn ni wedi datblygu diwylliant cynhyrchiol sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, er mwyn rhoi’r hyblygrwydd i gydweithwyr sicrhau ffyrdd cytbwys o fyw. 

Rydyn ni’n defnyddio technoleg sy’n caniatáu cydweithwyr i gydweithio, i gysylltu â’i gilydd yn ein swyddfeydd ac i weithio’n gynhwysol mewn amryw o leoliadau, gan ein bod hefyd yn adeiladu presenoldeb mwy y tu allan i Lundain. 

Gwerthoedd Ofcom

Dysgwch fwy am y gwerthoedd rydyn ni’n eu hymgorffori fel busnes – rhagoriaeth, ystwythder, cydweithio, parch a grymuso – a gweld sut maen nhw’n effeithio ar ein ffordd o weithio. 

Rhwydweithiau cydweithwyr

Mae ein rhwydweithiau cydweithwyr yn chwarae rhan allweddol o ran annog a chefnogi pob un o’n pobl i fod yn nhw eu hunain yn y gweithle. Maen nhw’n creu amgylchedd gwaith mwy cynhwysol ac yn creu ymdeimlad o gymuned yn Ofcom. 

Buddion a manteision

Yn ogystal â phecyn buddion safonol, mae amrywiaeth o fuddion a manteision y gall cyflogeion Ofcom ddewis ohonynt – sy’n rhoi’r hyblygrwydd i chi greu pecyn buddion sy’n addas i’ch anghenion unigol chi.