Rhwydweithiau cydweithwyr Ofcom
Yn Ofcom, rydyn ni wedi creu rhwydweithiau cydweithwyr i greu amgylchedd gwaith mwy cynhwysol sy’n cefnogi ac yn dathlu amrywiaeth yn ei holl ffurfiau.
Mae’r rhwydweithiau hyn yn gweithredu fel noddwyr a hyrwyddwyr ar draws meysydd fel rhywedd, crefydd, anabledd, rhywioldeb, ethnigrwydd a bod yn rhieni. Gall unrhyw un sy’n gweithio yn Ofcom ymuno ag un o’n rhwydweithiau cydweithwyr a’u defnyddio fel cyfle i gysylltu â chydweithwyr, rhannu profiadau, a chodi ymwybyddiaeth o unrhyw heriau rydym yn eu hwynebu fel sefydliad.
Rhwydwaith Affinity
Mae ein Rhwydwaith Affinity yma i gefnogi, cysylltu ac eiriol ar ran cydweithwyr LHDTC+. Mae’r rhwydwaith hwn yn cael ei redeg gan gydweithwyr a chynghreiriaid LHDTC+, ac mae’r rhwydwaith hwn wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod gweithwyr Ofcom yn gyfforddus yn y gwaith, a bod Ofcom yn parhau i anrhydeddu ei ymrwymiad i greu amgylchedd gwaith cyfeillgar i bobl LHDTC+.
RACE: Rhwydwaith Codi Ymwybyddiaeth o Ddiwylliant ac Ethnigrwydd
Mae ein Rhwydwaith RACE yn cynrychioli holl gydweithwyr Ofcom, ond yn enwedig y rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Mae’r rhwydwaith hwn yn lle i drafod a rhoi sylw i faterion a allai effeithio ar gydweithwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn ogystal ag i hyrwyddo egwyddorion ac arferion amrywiaeth a chynhwysiad yn y gweithle.
Rhwydwaith Menywod Ofcom
Nod Rhwydwaith Menywod Ofcom (OWN) yw diwallu anghenion cyfun pob menyw yn Ofcom – trawsryweddol a cisryweddol, yn ogystal â chydweithwyr anneuaidd a rhai nad ydynt yn cadarnhau rhywedd. Mae’r rhwydwaith hwn yn darparu lle diogel i drafod materion sy’n effeithio ar fenywod a phobl anneuaidd yn y gweithle ac mae’n helpu i alluogi menywod i gyflawni eu llawn botensial.
Rhwydwaith SOUND
Mae ein Rhwydwaith SOUND yma i gefnogi cydweithwyr sydd â phrofiad uniongyrchol o fyw gyda chyflwr, salwch neu anabledd tymor hir, gan gynnwys y rhai sy’n niwroamrywiol. Mae’r rhwydwaith hwn yn helpu i wella ein dealltwriaeth o niwroamrywiaeth ac anabledd fel sefydliad – gan gefnogi ein hamcanion ehangach yn ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad, ac yn ein gwaith rheoleiddio.
Rhwydwaith Rhieni a Gofalwyr
Nod ein rhwydwaith Rhieni a Gofalwyr yw cefnogi cydweithwyr sydd ag ymrwymiadau gofal plant neu unrhyw fath arall o gyfrifoldebau gofalu. Weithiau, mae angen ychydig o gymorth ychwanegol ar bob un ohonom gan rywun sy’n deall yn uniongyrchol beth rydyn ni’n mynd drwyddo. Mae’r rhwydwaith hwn yn lle diogel i rannu profiadau a chyfeirio pobl at adnoddau defnyddiol a pherthnasol.
Rhwydwaith Ffydd
Mae’r Rhwydwaith Ffydd yn agored i bobl o bob ffydd sy’n gweithio yn Ofcom ac i gynghreiriaid heb fod yn grefyddol sydd eisiau dysgu mwy mewn amgylchedd cyfeillgar a pharchus. Mae’r rhwydwaith hwn yn gyfle i siarad yn onest am ffydd a chred, yn ogystal â’r materion sy’n effeithio arnon ni a’n cymunedau yn Ofcom.
Rhwydwaith y Grŵp Cynhwysiad Cymdeithasol
Mae Rhwydwaith y Grŵp Cynhwysiad Cymdeithasol yn grŵp diddordeb ar gyfer ein holl gydweithwyr sy’n poeni am wneud Ofcom yn lle teg a chyfartal i weithio ynddo. Mae’r rhwydwaith hwn yn ein helpu i sicrhau ei bod yn bosibl i bobl o bob cefndir economaidd-gymdeithasol ffynnu yn Ofcom, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod ein gwaith o fudd i bobl o wahanol ddosbarthiadau a chefndiroedd.
Yn ogystal â’n rhwydweithiau, mae gennym hefyd y grwpiau cefnogi canlynol:
- Rhwydwaith Gwrando – ar gyfer cydweithwyr sydd angen sgwrs anfeirniadol. Rydyn ni i gyd yn mynd ychydig yn isel weithiau a gall digwyddiad mawr annisgwyl eich llorio. Weithiau, y cyfan sydd ei angen arnoch yw clust gyfeillgar i wrando.
- Fforwm Cydweithwyr – mae Fforwm Cydweithwyr Ofcom yn grŵp o gydweithwyr etholedig sy’n cwrdd ag uwch reolwyr yn rheolaidd i gyfathrebu ac ymgynghori ar faterion sy’n effeithio ar gydweithwyr yn Ofcom.