Ein Gwerthoedd
Rydyn ni yn Ofcom yn bodoli er mwyn sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb. Er mwyn gwneud hyn, mae gennym bump o werthoedd craidd sy’n ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud. Mae ein gwerthoedd yn siapio sut rydyn ni’n trin ein gilydd, sut rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd, sut rydyn ni’n ymwneud â’n rhanddeiliaid, a sut rydyn ni’n barnu perfformiad.
Rhagoriaeth
Fel rheoleiddiwr, mae’n bwysig ein bod yn cynnal ein hunain i’r un safonau uchel ag y byddwn yn eu gosod i bawb arall. Rydyn ni eisiau i’n pobl ni deimlo’n falch o’r gwaith maen nhw’n ei wneud – oherwydd mae’n cael effaith.
Cydweithio
Rydyn ni i gyd yn rhannu un nod yn Ofcom – ni waeth ym mha adran rydych chi’n gweithio na’r rôl rydych chi’n ei chyflawni. Mae ein pobl yn poeni am yr un pethau ac mae’r ffordd rydyn ni’n gweithio yn adlewyrchu hyn. Gallwn gyflawni mwy gyda’n gilydd nag y gallwn ar ein pen ein hunain.
Hyblygrwydd
Wrth i’r dirwedd gyfathrebu barhau i esblygu a thyfu, bydd ein sefydliad yn symud gyda hi. Rydyn ni’n gweithio gydag ystwythder a hyblygrwydd – gan aros ar flaen y gad o ran technoleg newydd ac addasu i newidiadau ac arloesi newydd yn ein sectorau
Grymuso
Rydyn ni’n credu y dylai pawb deimlo’n ddigon hyderus a chyfforddus i fod yn nhw eu hunain yn y gweithle. Rydyn ni’n grymuso ein pobl i gadw’n chwilfrydig, rhannu syniadau, gwneud gwaith sy’n eu hysbrydoli, a chael llais ar y materion sy’n bwysig iddynt.
Parch
Mae sgiliau, cyfraniadau a syniadau pawb yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu yn Ofcom. Mae gan bawb ran i’w chwarae a rhywbeth i’w gyfrannu. Rydyn ni’n gwerthfawrogi cyfraniad pawb yn gyfartal, beth bynnag fo’u cefndir neu eu profiad