Corporate

Corporate

gorfforaethol Yr adran

Mae ein grŵp corfforaethol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o helpu Ofcom i redeg yn ddidrafferth. Mae’n ein helpu i gefnogi cydweithwyr sy’n gweithio mewn adrannau a thimau eraill ar draws Ofcom, yn ogystal â’n cefnogi i barhau i dyfu a gweddnewid.

Archwiliwch wahanol dimau

Mae amrywiaeth o swyddi a chyfleoedd yn y Grŵp Corfforaethol.

Gwasanaethau Busnes a Rheolaeth Ariannol

Mae’r tîm Gwasanaethau Busnes a Rheolaeth Ariannol yn rheoli amryw o feysydd ariannol a chysylltiedig, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr a sefydliadau allanol.

Mae gwaith y tîm yn cynnwys rheoli ein gofynion incwm a chyllido, adrodd ariannol a threthu, gwneud yn siŵr bod y rheolaethau ariannol allweddol yn gweithredu’n effeithiol, archwilio mewnol ac allanol, rheoli asedau sefydlog, y gyflogres a threuliau, talu ein cyflenwyr, casglu ein derbynebau a rheoli’r arian yn ein cyfrifon banc. Mae hefyd yn cefnogi ein hymddiriedolwyr pensiwn â buddion wedi’u diffinio gyda’u gwaith ar reoli a dadrisgio’r rhwymedigaethau hirdymor hyn.

Tîm Cyswllt Defnyddwyr

Mae’r Tîm Cyswllt Defnyddwyr yn gweithredu fel llygaid a chlustiau Ofcom. Dyma’n cefnogaeth rheng flaen i’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau rydyn ni’n eu rheoleiddio, a’i waith yw sicrhau bod y defnyddwyr sy’n cysylltu â ni yn cael y gwasanaeth gorau posibl.

Mae’r tîm yn delio dros y ffôn ac yn ysgrifenedig gydag aelodau o’r cyhoedd.

Mae’r Tîm Cyswllt Defnyddwyr hefyd yn helpu diogelu defnyddwyr drwy gofnodi cwynion yn gywir. Mae hyn yn helpu i lywio ein gwaith rheoleiddio, ymchwilio a gorfodi nawr ac yn y dyfodol. Mae’r Tîm Cyswllt Defnyddwyr hefyd yn cefnogi hyn drwy roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar ddefnyddwyr er mwyn datrys eu hanghydfodau unigol.

Cyllid

Mae’r tîm cyllid yn cynnwys Cynllunio Busnes ac Adrodd, Masnachol, Rheoli Risg, a Gwasanaethau Busnes a Rheolaeth Ariannol.

Mae’r tîm Cynllunio Busnes ac Adrodd yn gyfrifol am gynllunio ariannol, cyllidebu, rhagweld ac adrodd ar reolaeth yn Ofcom, ac mae’n gweithio ochr yn ochr â chyfarwyddwyr grŵp y sefydliad a’u timau i gyflawni’r rhain. Mae’r tîm yn rhoi cefnogaeth ac arbenigedd i’r sefydliad i gynllunio a rhagweld y gwaith o gyflawni prosiectau a rhaglenni, ac i adolygu eu perfformiad yn ddiweddarach. Mae’n canolbwyntio ar wariant a rheolaethau ariannol, dyrannu adnoddau a chyflawni allbynnau.

Masnachol

Y tîm Masnachol sy’n pennu’r strategaeth gaffael ar gyfer Ofcom ac mae’n bennaf gyfrifol am ein holl wariant gyda chyflenwyr. Mae’n gyfrifol am ddylunio a rhoi rheolaethau, prosesau a gweithdrefnau priodol ar waith. Amcan cyffredinol y tîm yw darparu gwerth am arian ac arferion gorau masnachol gan sicrhau cydymffurfiad â chyfraith caffael cyhoeddus a diogelu enw da Ofcom.

Rheoli Risg

Mae’r tîm hwn yn gyfrifol am Fframwaith Rheoli Risg Ofcom. Mae’n gweithio gyda’n tîm Adrodd Ariannol, Partneriaid Busnes Cyllid a Hyrwyddwyr Risg Busnes i wneud yn siŵr ein bod yn ymwybodol o’r holl risgiau grŵp a’r rhai strategol ac yn gallu gweithredu arnynt pan fo angen. Mae’r tîm yn helpu cydweithwyr ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch a sicrwydd, ac mae hefyd yn rhoi arweiniad ar faterion yswiriant sy’n ymwneud ag Ofcom.

Cyfathrebiadau

Mae dulliau cyfathrebu da a chlir wrth galon popeth mae Ofcom yn ei wneud. Mae’r tîm Cyfathrebu’n ein helpu i gyfathrebu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae gan y tîm dri maes gwaith: Cyfathrebu Allanol; Cyfathrebu Mewnol; a’r tîm Digidol a Chreadigol.

Llywodraethu ac Atebolrwydd

Mae swyddogaeth Ysgrifenyddiaeth Ofcom yn cael ei rheoli gan y tîm Llywodraethu ac Atebolrwydd, sy’n rhan o’r Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol.

Mae’n gyfrifol am reoli trefniadau llywodraethu Ofcom, gan gynnwys:

  • aelodaeth y bwrdd a phwyllgorau;
  • cyfarfodydd y bwrdd a phwyllgorau;
  • rhyddid gwybodaeth;
  • diogelu data;
  • rheoli gwybodaeth;
  • rheoli dysg; a
  • rhoddion a lletygarwch.

Y Gwledydd  

Mae gan Ofcom ddyletswydd statudol i ystyried safbwyntiau a buddiannau’r rheini sy’n byw mewn gwahanol rannau o’r DU.

Mae ein gweithrediadau yn y gwledydd yn cael eu harwain gan uwch gyfarwyddwyr yng Nghaeredin, Caerdydd, Belfast a Llundain. Mae ein swyddfeydd cenedlaethol yn gallu defnyddio adnoddau llawn y sefydliad cyfan i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar un rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae’r gweithrediadau hynny hefyd yn gwneud yn siŵr bod barn, anghenion ac amgylchiadau arbennig y gwledydd yn cael sylw gan Ofcom.

Mae pwyllgor cynghori ym mhob gwlad yn rhoi gwybodaeth fanwl ac arbenigol i Ofcom am yr heriau a wynebir gan bobl yng ngwahanol rannau o’r DU. Mae buddiannau cenedlaethol hefyd yn cael eu cynrychioli gan aelodau Bwrdd Cynnwys a Phanel Defnyddwyr Cyfathrebiadau Ofcom.

Pobl a Thrawsnewid  

Mae’r tîm Pobl a Thrawsnewid yn cefnogi cydweithwyr ar eu taith yn Ofcom – o’r cam recriwtio i gyflawni eu rôl, ac i’r adeg maen nhw’n penderfynu symud ymlaen.

Mae hyn yn cynnwys dysgu a datblygu, amrywiaeth a chynhwysiant, a chamu ymlaen mewn gyrfa, yn ogystal â chefnogi llesiant a darparu gwybodaeth ymarferol am gyflog a buddion.

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Mae’r tîm TGCh yn cyflawni rôl allweddol wrth helpu Ofcom i weithredu’n effeithiol. Maen nhw’n gyfrifol am weithredu a chynnal polisïau a gweithdrefnau technoleg sy’n rheoli sut y defnyddir seilwaith technoleg – mae hyn yn cynnwys cadw ein systemau’n ddiogel. Mae hefyd yn rheoli ein partneriaid allanol i gyflawni fel un tîm TGCh i’r sefydliad. Mae’r tîm TGCh hefyd yn darparu cymorth technegol i’n cydweithwyr, gan sicrhau bod ganddynt y dechnoleg a’r adnoddau angenrheidiol i weithio’n effeithlon, lle bynnag y bônt.

Polisi Cyhoeddus

Mae’r tîm Polisi Cyhoeddus yn ymgysylltu â llunwyr polisi allanol a seneddwyr i egluro gwaith a dull gweithredu Ofcom, a sut rydyn ni’n helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau polisi cyhoeddus mawr sy’n wynebu’r DU.

Mae ei waith yn amrywiol iawn – ar un llaw mae’r tîm yno i ymateb i’r hyn sy’n digwydd yn y Llywodraeth a’r Senedd gan ymgysylltu ar faterion polisi pwysig y dydd. Ac ar yr un pryd mae yno i’n helpu ni i ragweld materion y gallai fod angen eu hegluro neu eu rheoli mewn ffordd ragweithiol yn y dyfodol. Gall fod yn anodd rhagweld y materion hyn, ond yn gyffredinol maen nhw’n ddatblygiad newydd mewn maes penodol sy’n debygol o fod yn ddadleuol a thynnu sylw’r cyfryngau. Yn yr achosion hynny, bydd ein tîm Polisi Cyhoeddus yn dod i mewn cyn gynted â phosibl i’n helpu i ymateb yn brydlon.