SBECTRWM

SBECTRWM

SBECTRWM Grwp

circle icon
icon

Mae’r sbectrwm radio (y tonnau anweledig sy’n galluogi technoleg ddi-wifr) yn adnodd sy’n hanfodol i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau masnachol a chyhoeddus, ond nid yw’n ddi-ben-draw. Tasg Ofcom yw gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei defnyddio er budd pawb yn y DU. 

Sbectrwm yw sail i’n bywydau modern. Hebddo, ni fyddai gennym ffonau symudol, teledu a radio, radar na gwasanaethau brys.   Mae’r twf mewn cysylltedd di-wifr yn newid y ffordd rydyn ni’n byw ac yn gweithio ac yn gosod heriau newydd i’n grŵp Sbectrwm.  

Gwasanaethau di-wifr yw un o feysydd mwyaf deinamig economi’r DU, gyda rhaglenni a defnyddiau newydd yn dod i’r amlwg, gan gynnwys dronau ac awtomatiaeth ym meysydd diwydiant a gofal iechyd.  

Gan na allwn ni greu mwy o sbectrwm radio, rhaid i ni wneud y defnydd mwyaf effeithlon ohono er mwyn galluogi gwasanaethau presennol i dyfu ac i ganiatáu rhaglenni newydd ac arloesol. Dyma rôl y Grŵp Sbectrwm – sef cynllunio a rheoli’r defnydd gwahanol o sbectrwm i hyrwyddo’r gwerth cymdeithasol ac economaidd gorau i’r DU. 

Rydyn ni’n defnyddio dull strategol i reoli’r adnodd gwerthfawr hwn gan gymysgu mecanwaith y farchnad ac ymyrraeth reoleiddiol fel y bo’n briodol i ddatblygu a gweithredu pob agwedd ar reoli sbectrwm yn y DU. Oherwydd bod technoleg ddi-wifr yn cael ei defnyddio’n fyd-eang, rydyn ni hefyd yn cynrychioli buddiannau’r DU yn rhyngwladol. Rydyn ni’n gweithio i gadw’r tonnau awyr yn rhydd o ymyriant er mwyn i’r ystod gynyddol o raglenni a gwasanaethau sydd angen mynediad i’r sbectrwm radio allu gweithredu’n effeithiol. 

Mae gan ein cydweithwyr yn y grŵp sbectrwm lawer o sgiliau amrywiol ac maent wedi cael gwahanol brofiadau – gan gynnwys peirianwyr amledd radio, arbenigwyr technoleg, arweinwyr polisi, negodwyr rhyngwladol, rheolwyr cysylltiadau a rhanddeiliaid, a thimau maes gweithredol. Yr hyn sydd gan bob un ohonom yn gyffredin yw meddwl ymholgar, awydd i ddatrys problemau ac, yn bwysicaf oll, y gallu i gydweithio. 

Y gwahanol dimau

Mae llawer o wahanol rolau a meysydd gwaith yn y grŵp Sbectrwm. 

Datblygu polisi a strategaeth  

Rydyn ni’n gweithio gydag amrywiaeth eang o ddiwydiannau ac academyddion i ddeall sut mae tueddiadau yn y farchnad a’r newid yn y galw yn siapio anghenion sbectrwm yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys deall llwybr esblygiadol y defnydd presennol o sbectrwm yn ogystal â chanfod galw newydd sy’n dod i’r amlwg. 

Trafodaethau rhyngwladol  

Mae llawer o benderfyniadau ynghylch defnyddio sbectrwm yn cael eu gwneud yn fyd-eang ac rydyn ni’n meithrin cysylltiadau rhyngwladol yn y maes hwn ac yn negodi gyda’n cymheiriaid o bob cwr o’r byd i wneud yn siŵr bod fframweithiau rheoleiddio perthnasol a phenderfyniadau cysylltiedig ynghylch sbectrwm rhyngwladol yn adlewyrchu lles gorau’r DU. 

Rheoli a thrwyddedu sbectrwm 

Rydyn ni’n cefnogi defnyddwyr sbectrwm bob dydd i ddeall beth y mae ganddynt awdurdod i’w wneud a monitro eu hanghenion sbectrwm wrth iddynt ddatblygu. Rydyn ni’n rheoli newidiadau i’w gofynion ac yn cynnal bron i hanner miliwn o drwyddedau sbectrwm ynghyd â’r adnoddau technegol a gweinyddol sy’n gwneud hyn yn bosibl. 

O safbwynt ein strategaethau yn y dyfodol ac i reoli ymyriant, mae’n hanfodol ein bod yn cadw cofnod o drwyddedeion sbectrwm yn y DU, gan wneud yn siŵr ein bod yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am ddefnyddio pa amleddau radio. 

Cynllunio a pheiriannu sbectrwm  

Rydyn ni’n defnyddio ystod eang o arbenigeddau technegol i fonitro a gwneud yn siŵr bod gwahanol ddefnyddwyr sbectrwm yn gallu cydfodoli heb ymyriant.  I wneud hyn, mae angen gwybodaeth am sut mae gwahanol systemau radio’n gweithio, er enghraifft ar draws rhwydweithiau symudol, darlledu a lloeren a hefyd rheoli traffig awyr a radar. Rydyn ni’n modelu sut mae gwahanol dechnolegau radio’n rhyngweithio â’i gilydd i lywio ein penderfyniadau rheoleiddio a hefyd yn gwneud gwaith cynllunio manwl i alluogi gwasanaethau i rannu sbectrwm mewn lleoliadau penodol 

Gwneud yn siŵr bod sbectrwm yn cael ei ddefnyddio’n gyfreithlon ac yn effeithlon 

Rydyn ni’n gweithio ledled y wlad i fonitro’r defnydd o sbectrwm radio, yn ymchwilio i achosion ymyriant sy’n effeithio ar ddefnyddwyr di-wifr, yn canfod defnydd di-drwydded, ac yn deall defnydd er mwyn llywio polisi yn y dyfodol. Rydyn ni hefyd yn monitro’r mathau o offer radio sydd ar y farchnad, a phan fydd offer yn cael ei werthu neu ei ddefnyddio’n anghyfreithlon, rydyn ni’n cymryd camau i fynd â’r offer i ffwrdd, gan gynnwys cymryd camau gorfodi lle bo angen.