Rhwydweithiau a Chyfathrebu Grwp
Ein cenhadaeth yw sicrhau bod cyfathrebu’n gweithio i bawb – drwy alluogi dewis o wasanaethau a rhwydweithiau cyfathrebu hygyrch a diogel, a gweithio i rymuso a diogelu defnyddwyr.
Mae dyletswydd arnom i hyrwyddo buddiannau’r bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyfathrebu. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy hyrwyddo cystadleuaeth yn y diwydiannau rydyn ni’n eu rheoleiddio, er mwyn helpu i sbarduno arloesedd a sicrhau bod pobl a busnesau’n gallu cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Gan weithio gyda’n cydweithwyr sbectrwm, rydym hefyd yn gyfrifol am gefnogi cystadleuaeth barhaus yn y sector symudol. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod cwmnïau symudol yn parhau i fuddsoddi yn eu rhwydweithiau, er mwyn sicrhau gwell darpariaeth a chapasiti i bobl ledled y wlad.
Rydyn ni hefyd yn canolbwyntio fwyfwy ar sicrhau bod buddiannau defnyddwyr a chystadleuaeth yn cael eu diogelu wrth i gyfathrebu symud ar-lein.
Mae gwasanaethau cyfathrebu fel ffôn a band eang yn hanfodol i’r ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau gartref, yn y gwaith ac wrth symud. Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw’r gwasanaethau hyn i bobl, felly rydyn ni’n cymryd camau i’w diogelu ac yn gwneud yn siŵr bod y cwmnïau’n eu trin yn deg. Mae’r grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebu wedi bod yn gweithio ar ofynion newydd sy’n helpu i ddiogelu cwsmeriaid, fel:
- mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw: gan gynnwys hyrwyddo’r defnydd o ‘dariffau cymdeithasol’ – bargeinion band eang rhatach sydd wedi’u hanelu at bobl sy’n cael budd-daliadau gan y llywodraeth;
- helpu pobl i gael bargeinion gwell: erbyn hyn, mae’n rhaid i ddarparwyr band eang anfon hysbysiadau at gwsmeriaid i roi gwybod iddynt pryd mae eu contract ar fin dod i ben a beth yw eu bargeinion gorau;
- ei gwneud hi’n haws i newid: rydyn ni wedi’i gwneud yn haws i gwsmeriaid newid eu darparwyr ffonau symudol a band eang;
- arian yn ôl pan fydd pethau’n mynd o chwith; rydyn ni wedi sicrhau bod cwsmeriaid llinell dir a band eang yn cael iawndal yn awtomatig pan fydd pethau’n mynd o chwith, fel cyfnodau hir o doriadau a pheirianwyr yn methu apwyntiadau; a
- mynediad at wasanaethau brys i bawb: rydyn ni wedi cyflwyno gwasanaeth cyfnewid fideo brys, sy’n golygu y gall defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain gysylltu â’r gwasanaethau brys yn eu hiaith gyntaf.
Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio ar nifer o heriau pwysig sy’n effeithio ar y ffordd rydyn ni i gyd yn defnyddio cyfathrebiadau nawr ac yn y dyfodol. Er enghraifft, mae diogelu pobl – yn enwedig cwsmeriaid agored i niwed – wrth i wasanaethau ffôn cartref gael eu huwchraddio o’r rhwydwaith sydd wedi bodoli ers degawdau ac sydd ar waith i lawer o bobl ar hyn o bryd, i dechnoleg galwadau digidol newydd. Rydyn ni hefyd yn cymryd camau i helpu i gael gwared ar sgamiau ac i ddiogelu pobl rhag cael eu twyllo gan dwyllwyr.
Rydyn ni hefyd yn gyfrifol am reoleiddio’r Post Brenhinol a chwmnïau danfon parseli. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth post cyffredinol – sy’n golygu bod y Post Brenhinol yn danfon chwe diwrnod yr wythnos ar draws y DU, am bris unffurf – yn gynaliadwy’n ariannol. Rydyn ni hefyd yn dal y cwmni i sawl safon ansawdd gwasanaeth, er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwasanaeth dibynadwy. Os bydd y cwmni’n methu, gallwn ymchwilio a gweithredu.
O dan y fframwaith rheoleiddio post a sefydlwyd gennym, mae gan y Post Brenhinol y rhyddid masnachol i ymateb i heriau fel y gostyngiad parhaus yn nifer y llythyrau mae pobl yn eu hanfon, gan ddarparu gwasanaeth fforddiadwy i’r cyhoedd ar yr un pryd. Mae Ofcom yn gosod uchafswm pris ar gyfer stampiau ail ddosbarth i sicrhau eu bod yn fforddiadwy. Mae gennym hefyd y rôl o asesu a yw manylebau’r gwasanaeth post cyffredinol yn diwallu anghenion rhesymol defnyddwyr.
Rydyn ni hefyd yn rheoleiddio cwmnïau danfon parseli yn ehangach, gan gynnwys gosod canllawiau ar gyfer ymdrin â chwynion defnyddwyr.
Rydyn ni’n casglu ac yn dadansoddi data o rwydweithiau’r DU ar gyfer ein hadroddiad Cysylltu’r Gwledydd. Mae hwn yn rhoi manylion am gyflwr seilwaith a gwasanaethau cyfathrebu yn y DU. Mae’r canfyddiadau o’r adroddiad hwn yn cael eu defnyddio gennym ni ac eraill i helpu datblygu polisïau. Rydyn ni hefyd yn darparu’r wybodaeth hon mewn sawl ffordd fel rhan o’n polisi data agored, yn ogystal ag ar gyfer defnyddwyr drwy ein gwiriwr darpariaeth.
Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cysylltu â’r gwasanaethau brys am ddim, yn ogystal ag edrych ar ffyrdd o wneud yn siŵr bod data lleoliad ar gael i’r gwasanaethau brys. Rydyn ni’n gweithio gyda’r diwydiant a’r gwasanaethau brys i wneud yn siŵr bod gwasanaethau a thechnolegau cyfathrebu newydd yn cynnal y safonau uchel o alwadau brys a disgwylir gennym, ac i ddeall yn well ble mae pethau’n mynd yn dda a lle gallai fod angen gwelliannau. Rydyn ni’n monitro datblygiadau technegol i wneud yn siŵr bod anghenion newidiol defnyddwyr yn cael eu diwallu.
Un o’r prif achosion o gam-ddefnydd rydyn ni’n delio ag ef yw galwadau a negeseuon niwsans a sgam, felly rydyn ni’n gweithio gyda’r diwydiant i helpu lleihau’r niwed a achosir gan y rhain.
Mae cadernid a dibynadwyedd rhwydweithiau yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu parhau i gael gafael ar y gwasanaethau y maent yn dibynnu arnyn nhw bob dydd. Mae ein gwaith yn y maes hwn yn cyd-fynd yn uniongyrchol â sut rydym ni, fel sefydliad, yn hyrwyddo buddsoddi mewn rhwydweithiau diogel cryf i bawb ar draws y DU.
Mae’r tîm hefyd yn datblygu ac yn hyrwyddo’r broses o fabwysiadu canllawiau cadernid rhwydwaith a mesurau sicrwydd ar draws y diwydiant cyfathrebu. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r diwydiant, y Llywodraeth ac asiantaethau perthnasol eraill i sicrhau bod nodau polisi o ran cadernid, argaeledd ac adfer ar ôl digwyddiadau, egwyddorion dylunio ac arferion gweithredu yn cael eu halinio a’u cydlynu.
Fel rhan o’r gwaith hwn, rydyn ni wedi cael pwerau newydd dan Ddeddf Diogelwch Telegyfathrebiadau Llywodraeth y DU. Mae’r ddeddf yn mynnu bod Ofcom yn monitro ac yn asesu diogelwch rhwydweithiau a gwasanaethau’r cwmnïau. Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod cwmnïau gwasanaethau hanfodol ar gyfer seilwaith digidol yn rheoli risgiau diogelwch ac yn profi i baratoi am fygythiadau posibl.
Fel gyda digwyddiadau cadernid, mae’n rhaid i bob cwmni telegyfathrebiadau a seilwaith digidol rydyn ni’n eu rheoleiddio roi gwybod am ddigwyddiadau diogelwch. Rydyn ni’n asesu hyn i wneud yn siŵr bod diogelwch priodol wedi cael ei roi ar waith a bod trefniadau priodol i ymdrin â digwyddiadau.