Grŵp Diogelwch Ar-lein
Ofcom yw rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU.
Gan ddefnyddio ein pwerau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, rydym yn gwneud gwasanaethau ar-lein yn fwy diogel i’r bobl sy’n eu defnyddio. Rydym yn sicrhau bod cwmnïau yn rhoi systemau effeithiol ar waith i ddiogelu defnyddwyr rhag niwed, ac yn cymryd camau i sicrhau bod eu gwasanaethau yn fwy diogel.
Wrth reoleiddio, ein hamcanion yw diogelu plant a defnyddwyr agored i niwed, lleihau cynnwys anghyfreithlon a niweidiol, ymgorffori diogelwch trwy ddylunio mewn gwasanaethau digidol, ac ysgogi gyrru tryloywder ac atebolrwydd ar draws platfformau.
Mae gwasanaethau ac apiau ar-lein yn rhan annatod o’n bywydau bob dydd. Maent yn ein helpu i weithio, dysgu, creu, cydweithio a chyfathrebu, ac maent yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i’n diddanu. Ond mae’r potensial i’r un gwasanaethau hyn amlygu defnyddwyr i gynnwys niweidiol – o sgamiau ar-lein i iaith gasineb a chyfathrebu eithafol anghyfreithlon, bwlio ac aflonyddu a chamfanteisio’n rhywiol ar blant.
Mae rheoliad diogelwch ar-lein y DU yn cwmpasu tua 100,000 o wefannau ac apiau, ar draws cyfryngau cymdeithasol, peiriannau chwilio, gwefannau chwilio am gariad/ dêt, platfformau gemau a phornograffi.
Mae ein dull yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn addasu’n gyflym i’r mesurau diogelwch sydd y mwyaf effeithiol mewn maes rheoleiddio sy’n datblygu’n gyflym.
Timau diogelwch ar-lein
Mae ein grŵp diogelwch ar-lein yn cynnwys y timau canlynol, bob un â’i arbenigedd penodol ei hun:
- Datblygu Polisi
- Goruchwylio
- Technoleg
- Polisi Technoleg
- Data a Gwybodaeth
- Strategaeth
