


Diversity and Inclusion
Yn Ofcom rydyn ni’n benderfynol ein bod am wneud popeth allwn ni i hybu amrywiaeth a chydraddoldeb yn ein sefydliad ac yn y sectorau ehangach rydyn ni’n eu rheoleiddio. Mae’n hanfodol i’n helpu ni i gyflawni ein pwrpas sefydliadol o sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb.
Mae angen i’n sefydliad gynrychioli demograffeg amrywiol y DU, felly mae’n hanfodol ein bod yn creu diwylliant cynhwysol lle mae cydraddoldeb yn sail i bopeth a wnawn.



Ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad
Mae amrywiaeth a chydraddoldeb yn hanfodol i’r ffordd rydyn ni’n gweithredu, fel cyflogwr ac fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU. Mae ein strategaeth yn amlinellu gwahanol flaenoriaethau ein gwaith, gan gynnwys targedau sy’n ymwneud â’n gweithlu ac amlinelliad o’n gweledigaeth fel sefydliad.
Rydyn ni’n cyhoeddi adroddiad amrywiaeth blynyddol sydd ar gael ar ein prif wefan.
Dyma ein targedau ar gyfer 2026:
- Ethnigrwydd mewn rolau uwch: 16% o’n harweinwyr ar lefel uwch yn dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig.
- Cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn rolau uwch: Cydbwysedd cyfartal rhwng y rhywiau ar lefelau uwch.
- Anabledd: 15% o’n cydweithwyr yn anabl.
- Byrddau a phwyllgorau: Cydbwysedd cyfartal rhwng y rhywiau a lefel gymharol debyg i’r poblogaethau perthnasol o ran anabledd (15%) ac ethnigrwydd (10%).
Yn ogystal â’r targedau hyn, rydyn ni’n canolbwyntio ar ehangu ein hamrywiaeth economaidd-gymdeithasol ac o ran dosbarth, yn ogystal â chynyddu ein hamrywiaeth ranbarthol, gyda mwy o gydweithwyr wedi’u lleoli y tu allan i Lundain. Mae’r rhain yn feysydd arbennig o bwysig i helpu i sicrhau bod ein gwaith rheoleiddio’n cael ei lywio gan bobl sydd ag ystod eang o brofiadau, cefndiroedd a safbwyntiau.
Ein gweledigaeth

Mae’r weledigaeth yn nodi’r egwyddorion rydyn ni’n eu dilyn wrth ddatblygu ein diwylliant, gan ddod â thegwch i’r ffyrdd rydym yn gweithredu, a sicrhau mwy o gynhwysiad. Mae cynhwysiad i ni yn fwy na dim ond y naw nodwedd sy’n cael eu gwarchod gan y gyfraith – rydyn ni’n golygu bod pawb, o bob cefndir a phrofiad bywyd, yn cael eu cynrychioli. Rydyn ni’n cydnabod bod gan bawb fan cychwyn gwahanol mewn bywyd, a byddwn yn creu cyfleoedd gyda hyn mewn golwg.
WE TAKE PERSONAL RESPONSIBILITY
Diversity and inclusion is a personal purpose and mission for all of us. We all play our part, no matter who we are, what we do, and where we’re located.
WE ARE TRULY DIVERSE
We reflect the diverse society we serve, in many different ways. We need to do so, to better appreciate people’s diverse needs and the challenges they face.
OUR LEADERS ARE ROLE MODELS
Our leaders set an example to others in how to live our values. They build diversity and inclusion into their daily decisions to make Ofcom a fantastic place to work for our colleagues, and to make communications work for everyone.
WE ARE CONNECTED TO COMMUNITIES
All colleagues are deeply connected in the communities and under-served groups, so we can hear consumers’ voices and learn about the society we serve. We use our own advantages to boost others and create positive social outcomes. We encourage colleagues to participate actively in areas they care about.
WE ARE NATURALLY INCLUSIVE
Our culture means that everyone feels they belong, are valued, and have a voice. We understand and celebrate many types of diversity, including combinations of identities too. We know that everyone one of us brings diversity to Ofcom in different ways and that we all more than just our characteristics.
WE ARE FAIR BY DESIGN
We consciously design and monitor the way that we do things, the decisions we make and the systems we use so that they are fair and equitable for our colleagues and for the people we serve. We know that sometimes we need to support people differently in order to treat them equally.
Amrywiaeth a chynhwysiad wrth gyflogi
Rydyn ni’n monitro ein polisïau a’n harferion yn helaeth drwy arolygon ymysg cydweithwyr, meincnodi allanol a chynnal archwiliad cyflog cyfartal bob dwy flynedd. Mae gwasanaethau meincnodi allanol yn ein galluogi i gymharu ein prosesau busnes ag arferion gorau yn y diwydiant, ac i ddeall sut hwyl rydyn ni’n ei chael arni o ran cyflawni ein gweithgareddau i hybu amrywiaeth mewn cyflogaeth.
I gefnogi ein hamcanion o ran recriwtio gweithlu mwy amrywiol, rydyn ni’n adolygu ein prosesau a’n methodolegau recriwtio yn rheolaidd i sicrhau bod y rhain yn gynhwysol, yn deg ac yn dryloyw.