Y Technoleg, Data ac Arloesi Grŵp
Mae’r grŵp Technoleg, Data ac Arloesi yn Ofcom yn gwneud yn siŵr bod pobl a busnesau yn y DU yn gallu defnyddio’r sianeli a’r llwyfannau cyfathrebu y maen nhw’n dibynnu arnynt bob dydd. Mae’n chwarae rhan ganolog yn y gwaith o drawsnewid ein gwaith rheoleiddio a pholisi – gan wneud yn siŵr ein bod yn cadw gam ar y blaen i’r datblygiadau diweddaraf yn y sector cyfathrebiadau.
Mae ei waith yn ymwneud â sectorau hanfodol fel rhwydweithiau band eang a symudol, a gwasanaethau teledu a radio darlledu. Mae hefyd yn gyfrifol am ein helpu i reoleiddio llwyfannau rhannu fideos yn y DU a chanolbwyntio ar sut gallwn reoleiddio diogelwch ar-lein yn well – gan helpu pobl i fyw bywydau mwy diogel ar-lein.
Mae hefyd yn ein helpu i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o sut y bydd technolegau newydd a datblygol fel deallusrwydd artiffisial, realiti estynedig, dysgu peirianyddol a dysgu dwfn yn chwarae rhan ar draws y sectorau rydyn ni’n eu rheoleiddio.
Y gwahanol dimau
Mae amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous a heriol yn y grŵp Technoleg, Data ac Arloesi
Y tîm Ymddiriedaeth a Diogelwch
Mae’r tîm hwn yn allweddol i’r ffordd rydyn ni’n mynd ati i reoleiddio diogelwch ar-lein. Mae’r rolau o fewn y tîm hwn yn gofyn am bobl sy’n frwd dros ddeall y technolegau sy’n ysgogi ymddiriedaeth mewn gwasanaethau a llwyfannau ar-lein, ac sy’n awyddus i wneud y byd ar-lein yn fwy diogel.
Y tîm Cyfathrebu a Thechnolegau’r Cyfryngau
Y tîm hwn yw’r lle mae arbenigwyr yn gweithio i sicrhau bod Ofcom yn gallu rhagweld, neu hyd yn oed ddylanwadu ar y technolegau a fydd yn cefnogi rhwydweithiau cyfathrebu’r dyfodol, gan gynnwys rhwydweithiau symudol a band eang.
Canolfan Arloesi Data
Mae’r tîm hwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio data yn y ffordd fwyaf effeithiol – gan ein helpu i ddylunio, rheoli a galluogi arferion rheoleiddio o’r radd flaenaf.
Y Tîm Polisi Technoleg
Mae’r tîm hwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn dod â’n harbenigedd ym maes technoleg a datblygu polisi at ei gilydd yn y ffordd fwyaf effeithiol – gan fynd i’r afael â’r prif faterion polisi y mae datblygiadau newydd a chyfredol yn y gofod technoleg yn effeithio arnynt.
Mae’r grŵp Technoleg, Data ac Arloesi yn agored i amrywiaeth o ymgeiswyr o bob cefndir a set sgiliau. Y peth pwysicaf yw eich bod yn frwd dros dechnoleg, ac yn agored i ffyrdd newydd o weithio. Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n awyddus i gael effaith ar y sector cyfathrebiadau yn y DU mewn sefydliad cefnogol sy’n cael ei yrru gan werth. Dyma rai o’r sgiliau neu’r profiadau a allai fod yn berthnasol:
- sgiliau academaidd/ymchwil;
- dylunio/datblygu/profi cynnyrch;
- delweddau cyfrifiadurol;
- hunaniaeth ddigidol;
- technolegau ymddiriedaeth a diogelwch;
- datblygu safonau;
- modelu, dadansoddi a gwerthuso technolegau cyfathrebu neu’r cyfryngau;
- profiad ymarferol o ddefnyddio technolegau mewn cynnyrch neu rwydweithiau cyfathrebu; a
- pensaernïaeth data, peirianneg a dadansoddi.