BOCG

BOCG

Darlledu a Chynnwys Ar-lein (BOCG) Grŵp

Mae’r Grŵp Darlledu a Chynnwys Ar-lein yn cefnogi ac yn gwasanaethu sector bywiog o gynulleidfaoedd o deledu i radio i fideo ar-alw. Rydyn ni’n helpu cyfryngau’r DU i ddatblygu er mwyn diwallu anghenion newidiol gwylwyr a gwrandawyr drwy symud i ganolbwyntio ar yr angen cynyddol am ddiogelwch ar-lein yn y DU.  

Rydyn ni’n cynorthwyo mewn sawl maes:

Gweithrediadau Darlledu, Trwyddedu a Rhaglenni

Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod darlledwyr yn parhau i ddarparu rhaglenni o ansawdd sy’n apelio at y cynulleidfaoedd mwyaf amrywiol ac sy’n cefnogi’r broses o gyflawni gwaith yn effeithiol ar draws y grŵp.

Polisi Cynnwys

Rydyn ni’n helpu gwneud yn siŵr bod y sector darlledu yn y DU yn gwasanaethu cynulleidfaoedd yn dda. Mewn marchnad gystadleuol, ein nod yw darparu amrywiaeth o gynnwys darlledu ac ar-lein gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fel y BBC, ITV, Channel 4 a Channel 5.

Diogelwch Ar-lein

Mae’r tîm Diogelwch Ar-lein yn arwain y gwaith o weithredu a rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos, o ddatblygu ein dull o reoleiddio cynnwys i ddatblygu cyfundrefnau newydd sy’n diogelu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol ac anghyfreithlon.

Safonau a Diogelu Cynulleidfaoedd

Rydyn ni hefyd yn gyfrifol am osod a gorfodi safonau cynnwys. Mae’r gwaith pwysig hwn yn gwneud yn siŵr bod cynulleidfaoedd ar draws y gwasanaethau rydyn ni’n eu rheoleiddio yn cael eu diogelu bob amser.