LLESIANT

LLESIANT

LLESIANT

icon-person

Thrive @ Ofcom

Fel sefydliad, mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl sy’n gweithio yma. Dyna pam mae llesiant wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud yn Ofcom. 

Rydyn ni eisiau i’n cydweithwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydyn nhw. Mae hyn yn golygu cydnabod bod gan bob un ohonom anghenion gwahanol o ran ein llesiant ein hunain, a gwneud yn siŵr bod cydweithwyr yn gwybod ble i gael cymorth a chefnogaeth os oes ei angen arnynt. 

Mae ein rhaglen llesiant, Thrive@Ofcom, yn cynnig amryw o wahanol ffyrdd i’n cydweithwyr gael cymorth. 

Roeddem yn falch iawn o weld ein rhaglen Thrive@Ofcom yn cael ei chydnabod drwy gael ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Menter Iechyd Meddwl Orau yng Ngwobrau Llesiant yn y Gweithle Prydain Fawr yn 2021, ac fel y Strategaeth Lles yn y Gweithle Orau (yn y sector cyhoeddus) ar gyfer 2022. 

Mae hyn yn cydnabod ein hymdrechion i gynnig rhaglen gref o gefnogaeth i bawb yn Ofcom i reoli eu llesiant eu hunain mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw. 

Rwy’n hynod falch o’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud i gefnogi llesiant cydweithwyr
dros y ddwy flynedd gythryblus ddiwethaf. Mae hyn yn cydnabod ein hymrwymiad parhaus i’n cydweithwyr.

Kerri-Ann O’Neill – Cyfarwyddwr Pobl a Thrawsnewid

Mae’r amrywiaeth o gymorth a nodir isod yn gyfrinachol, yn hawdd cael gafael arno ac ar gael yn rhwydd.

Gofal iechyd preifat

Yn Ofcom, rydyn ni am i bawb gael mynediad at ofal a chymorth teg ac effeithiol. Mae holl gydweithwyr Ofcom yn cael yswiriant meddygol preifat fel mater o drefn.

AXA Stronger Minds (drwy asesiad meddygol preifat)

Mae hwn ar gael i gydweithwyr sydd angen cymorth gyda’u hiechyd meddwl, ac nid oes angen atgyfeiriad gan feddyg teulu. Ffoniwch i drefnu asesiad, a bydd cwnselydd neu seicolegydd AXA yn gwrando arnoch ac yn awgrymu cynllun triniaeth sy’n briodol i chi’n glinigol. 

Swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl

Mae gennym grŵp amrywiol o swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl ym mhob un o leoliadau Ofcom. Maen nhw wedi ymrwymo i wrando ar unrhyw un a fyddai’n hoffi siarad â rhywun, a’u cefnogi.

Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Mae ein rhaglen cymorth i weithwyr yn darparu gwasanaeth cymorth, gwybodaeth a chyngor cwbl gyfrinachol i gydweithwyr, sydd ar gael dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. 

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan Aviva ac yn rhad ac am ddim. Mae’n cynnig mynediad at wybodaeth, atebion a chyngor ar unwaith ar amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â’r gweithle a materion personol

Meddyg wrth law

Gall fod yn anodd cael apwyntiad gyda meddyg teulu. Fel rhan o’n cynllun gofal meddygol preifat yn Ofcom, mae ein cydweithwyr yn cael mynediad at wasanaeth meddygon teulu rhithwir sy’n ei gwneud yn hawdd cael ymgynghoriad diogel dros y ffôn neu drwy fideo ar-lein, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn ac o unrhyw le yn y byd 

Aelodaeth ratach o’r gampfa

Mae gan gydweithwyr yn Ofcom fynediad at nifer o gynlluniau aelodaeth am bris gostyngol, mewn campfeydd ledled y wlad. Mae’r rhain yn cynnwys campfeydd fel Nuffield, Pure Gym a David Lloyd, yn ogystal â champfeydd lleol a dosbarthiadau ar-lein. 

Headspace 

Mae pob cydweithiwr yn cael mynediad am ddim at Headspace, ap ymwybyddiaeth ofalgar sy’n cynnig mynediad at gannoedd o fyfyrdodau dan arweiniad ar bynciau fel gorbryder, cynhyrchiant, cwsg, chwaraeon ac iechyd corfforol, perthnasoedd a hyd yn oed cynnwys ar gyfer plant. 

Thrive app

Mae pob cydweithiwr yn cael mynediad am ddim at ap lles meddyliol Thrive sydd wedi cael ei gymeradwyo gan y GIG, ac yn darparu adnoddau i reoli eich llesiant meddyliol. Gall cydweithwyr ddilyn rhaglen therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) byr, yn ogystal â chael mynediad at raglenni ymlacio ac anadlu’n bwyllog.

Absenoldeb gwirfoddoli

Mae llawer o fanteision i wirfoddoli, i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, a hefyd i’n llesiant ni ein hunain. Mae hawl gan gydweithwyr yn Ofcom i gael pum diwrnod o absenoldeb gwirfoddoli bob blwyddyn.