The Blog

The Blog

Amrywiaeth a chynhwysiad

Yn Ofcom rydyn ni’n benderfynol ein bod am wneud popeth allwn ni i hybu amrywiaeth a chydraddoldeb yn ein sefydliad ac yn y sectorau ehangach rydyn ni’n eu rheoleiddio. Mae’n hanfodol i’n helpu ni i gyflawni ein pwrpas sefydliadol o sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb.
Mae angen i’n sefydliad gynrychioli demograffeg amrywiol y DU, felly mae’n hanfodol ein bod yn creu diwylliant cynhwysol lle mae cydraddoldeb yn sail i bopeth a wnawn.

Ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad
Ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad
Ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad

Ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad

Mae amrywiaeth a chydraddoldeb yn hanfodol i’r ffordd rydyn ni’n gweithredu, fel cyflogwr ac fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU. Mae ein strategaeth yn amlinellu gwahanol flaenoriaethau ein gwaith, gan gynnwys targedau sy’n ymwneud â’n gweithlu ac amlinelliad o’n gweledigaeth fel sefydliad.

Rydyn ni’n cyhoeddi adroddiad amrywiaeth blynyddol sydd ar gael ar ein prif wefan.

Dyma ein targedau ar gyfer 2026:

  • Ethnigrwydd mewn rolau uwch: 16% o’n harweinwyr ar lefel uwch yn dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig.
  • Cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn rolau uwch: Cydbwysedd cyfartal rhwng y rhywiau ar lefelau uwch.
  • Anabledd: 15% o’n cydweithwyr yn anabl.
  • Byrddau a phwyllgorau: Cydbwysedd cyfartal rhwng y rhywiau a lefel gymharol debyg i’r poblogaethau perthnasol o ran anabledd (15%) ac ethnigrwydd (10%).

Yn ogystal â’r targedau hyn, rydyn ni’n canolbwyntio ar ehangu ein hamrywiaeth economaidd-gymdeithasol ac o ran dosbarth, yn ogystal â chynyddu ein hamrywiaeth ranbarthol, gyda mwy o gydweithwyr wedi’u lleoli y tu allan i Lundain. Mae’r rhain yn feysydd arbennig o bwysig i helpu i sicrhau bod ein gwaith rheoleiddio’n cael ei lywio gan bobl sydd ag ystod eang o brofiadau, cefndiroedd a safbwyntiau.

Ein gweledigaeth

Mae’r weledigaeth yn nodi’r egwyddorion y tu ôl i’r ffordd rydyn ni’n datblygu ein diwylliant, gan ddod â thegwch i’r ffyrdd rydym yn gweithredu, a sicrhau mwy o gynhwysiad. Mae cynhwysiad i ni yn fwy na dim ond y naw nodwedd sy’n cael eu gwarchod gan y gyfraith – rydyn ni’n golygu bod pawb, o bob cefndir a phrofiad bywyd, yn cael eu cynrychioli. Rydyn ni’n cydnabod bod gan bawb fan cychwyn gwahanol mewn bywyd, a byddwn yn creu cyfleoedd gyda hyn mewn golwg.

RYDYN NI’N CYMRYD CYFRIFOLDEB PERSONOL

Mae amrywiaeth a chynhwysiad yn nod a chenhadaeth bersonol i bob un ohonom. Mae pob un ohonom yn chwarae ein rhan, ni waeth pwy ydyn ni, beth rydyn ni’n ei wneud, a ble rydyn ni wedi’n lleoli.

RYDYN NI’N WIRIONEDDOL AMRYWIOL

Rydyn ni’n adlewyrchu’r gymdeithas amrywiol yr ydym yn ei gwasanaethu, mewn sawl ffordd wahanol. Mae angen inni wneud hynny er mwyn gwerthfawrogi anghenion amrywiol pobl yn well a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu.

MAE EIN HARWEINWYR YN GOSOD ESIAMPL

Mae ein harweinwyr yn gosod esiampl i bobl eraill o ran sut mae arddel ein gwerthoedd. Maen nhw’n cynnwys amrywiaeth a chynhwysiad yn eu penderfyniadau bob dydd i wneud Ofcom yn lle gwych i weithio i’n cyd-weithwyr, ac i sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb..

RYDYN NI’N GYSYLLTIEDIG Â CHYMUNEDAU

Mae gan yr holl gyd-weithwyr gysylltiad agos â chymunedau a grwpiau sy’n cael eu tan-wasanaethu, er mwyn inni allu clywed lleisiau defnyddwyr a dysgu am y gymdeithas rydyn ni’n ei gwasanaethu. Rydyn ni’n defnyddio ein manteision ein hunain i roi hwb i eraill a chreu canlyniadau cymdeithasol cadarnhaol. Rydyn ni’n annog cyd-weithwyr i gymryd rhan weithredol mewn meysydd sy’n bwysig iddynt..

RYDYN NI’N NATURIOL GYNHWYSOL

Mae ein diwylliant yn golygu bod pawb yn teimlo eu bod yn perthyn, yn cael eu gwerthfawrogi a bod ganddynt lais. Rydyn ni’n deall ac yn dathlu sawl math o amrywiaeth, gan gynnwys cyfuniadau o hunaniaethau hefyd. Gwyddom fod pob un ohonom yn cynnig amrywiaeth i Ofcom mewn ffyrdd gwahanol a’n bod ni i gyd yn fwy na dim ond ein nodweddion.

RYDYN NI’N DEG DRWY DDYLUNIAD

Rydyn ni’n mynd ati’n fwriadol i gynllunio a monitro’r ffordd rydyn ni’n gwneud pethau, y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud a’r systemau rydyn ni’n eu defnyddio fel eu bod yn deg ac yn gyfiawn i’n cydweithwyr ac i’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu. Gwyddom fod angen weithiau inni gefnogi pobl yn wahanol, er mwyn eu trin yn gyfartal.

Amrywiaeth a chynhwysiad wrth gyflogi

Rydyn ni’n monitro ein polisïau a’n harferion yn helaeth drwy arolygon ymysg cydweithwyr, meincnodi allanol a chynnal archwiliad cyflog cyfartal bob dwy flynedd. Mae gwasanaethau meincnodi allanol yn ein galluogi i gymharu ein prosesau busnes ag arferion gorau yn y diwydiant, ac i ddeall sut hwyl rydyn ni’n ei chael arni o ran cyflawni ein gweithgareddau i hybu amrywiaeth mewn cyflogaeth.
I gefnogi ein hamcanion o ran recriwtio gweithlu mwy amrywiol, rydyn ni’n adolygu ein prosesau a’n methodolegau recriwtio yn rheolaidd i sicrhau bod y rhain yn gynhwysol, yn deg ac yn dryloyw.

Ein Gwerthoedd

Rydyn ni yn Ofcom yn bodoli er mwyn sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb. Er mwyn gwneud hyn, mae gennym bump o werthoedd craidd sy’n ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud. Mae ein gwerthoedd yn siapio sut rydyn ni’n trin ein gilydd, sut rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd, sut rydyn ni’n ymwneud â’n rhanddeiliaid, a sut rydyn ni’n barnu perfformiad.

Rhagoriaeth

Fel rheoleiddiwr, mae’n bwysig ein bod yn cynnal ein hunain i’r un safonau uchel ag y byddwn yn eu gosod i bawb arall. Rydyn ni eisiau i’n pobl ni deimlo’n falch o’r gwaith maen nhw’n ei wneud – oherwydd mae’n cael effaith.

Excellence

Cydweithio

Rydyn ni i gyd yn rhannu un nod yn Ofcom – ni waeth ym mha adran rydych chi’n gweithio na’r rôl rydych chi’n ei chyflawni. Mae ein pobl yn poeni am yr un pethau ac mae’r ffordd rydyn ni’n gweithio yn adlewyrchu hyn. Gallwn gyflawni mwy gyda’n gilydd nag y gallwn ar ein pen ein hunain.

Collaboration

Hyblygrwydd

Wrth i’r dirwedd gyfathrebu barhau i esblygu a thyfu, bydd ein sefydliad yn symud gyda hi. Rydyn ni’n gweithio gydag ystwythder a hyblygrwydd – gan aros ar flaen y gad o ran technoleg newydd ac addasu i newidiadau ac arloesi newydd yn ein sectorau

Agility

Grymuso

Rydyn ni’n credu y dylai pawb deimlo’n ddigon hyderus a chyfforddus i fod yn nhw eu hunain yn y gweithle. Rydyn ni’n grymuso ein pobl i gadw’n chwilfrydig, rhannu syniadau, gwneud gwaith sy’n eu hysbrydoli, a chael llais ar y materion sy’n bwysig iddynt.

Empowerment

Parch

Mae sgiliau, cyfraniadau a syniadau pawb yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu yn Ofcom. Mae gan bawb ran i’w chwarae a rhywbeth i’w gyfrannu. Rydyn ni’n gwerthfawrogi cyfraniad pawb yn gyfartal, beth bynnag fo’u cefndir neu eu profiad

Respect

YN OFCOM, RYDYN NI’N SICRHAU CYFATHREBIADAU’N BOD GWEITHIO I BAWB

Mae rôl Ofcom yn un bwysig ac amrywiol. Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y gorau o’u band eang, eu ffôn cartref a’u gwasanaethau symudol, yn ogystal â chadw llygad ar y teledu a’r radio. Rydyn ni hefyd yn goruchwylio’r gwasanaeth post, ac yn rheoli’r sbectrwm radio. A chyn bo hir byddwn yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel.

Cadw pobl yn ddiogel

Drwy ein gwaith ym maes diogelwch ar-lein, rydyn ni’n cadw pobl yn ddiogel ar-lein. Rydyn ni’n amddiffyn pobl rhag triniaeth annheg, sgamiau, ac achosion o ymyrryd ar eu preifatrwydd. Rydyn ni’n darparu cyngor a gwybodaeth i filoedd o bobl bob blwyddyn, drwy ein gwefan a’n canolfan alwadau. Rydyn ni hefyd yn cofrestru cwynion gan bobl a busnesau, sy’n ein helpu i gymryd camau yn erbyn cwmnïau pan fyddant yn gadael eu cwsmeriaid i lawr.

pink

Gwasanaethau band eang, ffôn, a symudol

Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y gorau o’u band eang, eu ffôn cartref a’u gwasanaethau symudol. Mae hyn yn cynnwys monitro newidiadau mewn costau a biliau, diogelu pobl rhag sgamiau a galwadau niwsans, a gwneud yn siŵr bod gan bobl fynediad i gysylltiad rhyngrwyd lle bynnag maen nhw’n byw.

Darlledu gwasanaethau teledu a radio

Mae’r Cod Darlledu yn nodi cyfres o egwyddorion a rheolau y mae’n rhaid i ddarlledwyr gwasanaethau teledu a radio gydymffurfio â nhw. Mae’r cod hwn yn sicrhau pethau fel didueddrwydd, rheolau yn ymwneud â darlledu yn ystod etholiadau a refferenda, ac amddiffyn pobl o dan 18 oed. Darllenwch God Darlledu llawn Ofcom.

Tonnau awyr

Rydyn ni’n gofalu am y tonnau awyr a ddefnyddir gan ddyfeisiau di-wifr fel ffonau di-wifr, walkie talkies a hyd yn oed rhai goriadau car a chlychau drws. Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod y sbectrwm radio’n cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl yn ogystal â rheoli defnydd dinasyddion o’r sbectrwm radio a mynd i’r afael â darlledu anghyfreithlon.

Gwasanaeth post

Rydyn ni’n goruchwylio’r gwasanaeth post cyffredinol, sy’n golygu bod rhaid i’r Post Brenhinol ddanfon a chasglu llythyrau chwe diwrnod yr wythnos, a pharseli bum niwrnod yr wythnos, am bris fforddiadwy ac unffurf ar draws y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n monitro’r gwasanaeth post ac yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar effeithlonrwydd, fforddiadwyedd a chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth.

icon-person

Gwaith rhyngwladol

Dylanwadir yn helaeth ar ein gwaith yn Ofcom gan y datblygiadau diweddaraf yn y sector cyfathrebiadau. Gan fod cyfathrebiadau’n dod yn fwyfwy byd-eang eu natur, rydyn ni’n gweithio’n agos â sefydliadau rhyngwladol a rheoleiddwyr i sicrhau bod ein cylch gwaith yn cynnwys yr holl sianeli posibl sydd ar gael i gwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig a’n bod gam ar y blaen i fygythiadau seiberddiogelwch.

top icon

Gyrfa sy;n gweithio i chi

mobile-bottom-text-icon
bottom-icon

BETH AM YMGYMRYD Â’R MATERION SYDD WIR YN BWYSIG

Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU, rydyn ni’n cyflawni gwaith hanfodol sy’n helpu i gadw pobl mewn cysylltiad ledled y DU ac sy’n siapio’r ffordd y byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad â’n gilydd yn y dyfodol. 

Mae ein gwaith yn cynnwys popeth o ffonau a band eang i deledu, radio, y gwasanaeth post, a dyfeisiau di-wifr. Rydyn ni hefyd yn ymgymryd â’r her o wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel. I’n helpu i gyflawni ein nod o sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb, mae arnom angen pobl o bob cefndir, gyda sgiliau amrywiol ac sydd wedi cael gwahanol brofiadau.  

PWY YDYN NI

Mae Ofcom yn gweithio i gadw pobl y DU yn ddiogel rhag niwed a gwneud yn siŵr eu bod yn cael y gwasanaeth gorau posibl gan eu darparwyr gwasanaethau cyfathrebu. Dysgwch fwy amdanom ni, ble rydyn ni’n gweithredu, a’r gwahanol fathau o waith rydyn ni’n ei wneud.

RHAGOR O WYBODAETH

GYRFAOEDD

P’un ai a ydych chi’n dechrau arni yn eich gyrfa neu’n chwilio am eich antur fawr nesaf, dysgwch fwy am waith ein grwpiau a’n timau a gweld sut gallech chi effeithio ar fywydau pobl yn y DU. 

RHAGOR O WYBODAETH

DIWYLLIANT

Rydyn ni’n rhoi lles ein pobl wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud. Dysgwch am ein gwerthoedd a gweld sut rydyn ni’n dod â nhw’n fyw yn y gweithle. Dysgwch fwy am fanteision gweithio i Ofcom, y rhwydweithiau gweithwyr y gallwch chi ymuno â nhw, a darllenwch ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant. 

RHAGOR O WYBODAETH

CHWILIO AM SWYDDI

Ydych chi’n barod i chwilio am y cam nesaf yn eich gyrfa? Tarwch olwg ar ein swyddi gwag ar hyn o bryd.

CHWILIO AM SWYDDI
RYDYN NI WEDI YMRWYMO I DDIOGELU RHYDDID MYNEGIANT HEB
GANIATÁU IAITH CASINEB