The Blog

The Blog

Gweithio yn Ofcom

Rydyn ni’n gwneud gwaith cyffrous yn Ofcom ac, fel y diwydiannau rydyn ni’n eu rheoleiddio, mae’n symud yn gyflym ac yn newid yn gyson. Wrth i’r dirwedd cyfathrebu barhau i esblygu, rydyn ni’n gwneud yr un fath.  

Rydyn ni’n chwilio am bobl newydd sy’n gallu cynnig syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol. Dyma’r unig ffordd y gallwn ni barhau i gyflawni ein pwrpas craidd: sef sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb. 

Gweithio cysylltiedig 

Ein gweledigaeth ar gyfer gweithio hybrid yw grymuso cydweithwyr i weithio’n effeithiol gyda’i gilydd wyneb yn wyneb, ac mewn amryw o leoliadau. Rydyn ni’n credu mewn galluogi hyblygrwydd gan gydnabod gwerth cael cydweithwyr gyda’i gilydd, a diwallu anghenion y sefydliad, ein timau a ni ein hunain. 

Rydyn ni wedi datblygu diwylliant cynhyrchiol sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, er mwyn rhoi’r hyblygrwydd i gydweithwyr sicrhau ffyrdd cytbwys o fyw. 

Rydyn ni’n defnyddio technoleg sy’n caniatáu cydweithwyr i gydweithio, i gysylltu â’i gilydd yn ein swyddfeydd ac i weithio’n gynhwysol mewn amryw o leoliadau, gan ein bod hefyd yn adeiladu presenoldeb mwy y tu allan i Lundain. 

Gwerthoedd Ofcom

Dysgwch fwy am y gwerthoedd rydyn ni’n eu hymgorffori fel busnes – rhagoriaeth, ystwythder, cydweithio, parch a grymuso – a gweld sut maen nhw’n effeithio ar ein ffordd o weithio. 

Rhwydweithiau cydweithwyr

Mae ein rhwydweithiau cydweithwyr yn chwarae rhan allweddol o ran annog a chefnogi pob un o’n pobl i fod yn nhw eu hunain yn y gweithle. Maen nhw’n creu amgylchedd gwaith mwy cynhwysol ac yn creu ymdeimlad o gymuned yn Ofcom. 

Buddion a manteision

Yn ogystal â phecyn buddion safonol, mae amrywiaeth o fuddion a manteision y gall cyflogeion Ofcom ddewis ohonynt – sy’n rhoi’r hyblygrwydd i chi greu pecyn buddion sy’n addas i’ch anghenion unigol chi. 

Grŵp Diogelwch Ar-lein

Rydyn ni’n newid y ffordd mae’r byd yn cadw’n ddiogel ar-lein, sy’n golygu na fu erioed amser mwy cyffrous i ymuno â ni. 

Mae’r rhyngrwyd yn rhan annatod o fywyd bob dydd. Er bod hyn yn dod â nifer o fendithion, does dim modd anwybyddu’r cynnwys niweidiol y mae pobl yn dod ar ei draws ar-lein bob dydd. 

Er mwyn atal defnyddwyr y rhyngrwyd rhag niwed, cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Diogelwch Ar-lein i’r Senedd ym mis Mawrth 2022. Gwnaethom chwarae rhan allweddol yn y gwaith o greu’r bil hwn. 

Sut bydd y bil yn effeithio ar ddarparwyr?
Sut bydd y bil yn effeithio ar ddarparwyr?
Sut bydd y bil yn effeithio ar ddarparwyr?

Sut bydd y bil yn effeithio ar ddarparwyr?

Bydd y manylion yn cael eu trafod yn y Senedd, ond mae’n debygol y bydd nifer o ddyletswyddau’n cael eu gosod ar ddarparwyr. Fel y mae ar hyn o bryd, bydd gan bob llwyfan a gwasanaeth a reoleiddir y cyfrifoldebau a ganlyn: 

  • Cynnal ac ymgymryd ag asesiadau risg ar gyfer cynnwys anghyfreithlon, cynnwys sy’n niweidiol i blant, a chynnwys sy’n niweidiol i oedolion. 
  • Cymryd camau i liniaru a rheoli risgiau o niwed a achosir gan gynnwys anghyfreithlon. 
  • Diogelu cynnwys o bwysigrwydd democrataidd, cynnwys newyddiadurol a rhyddid mynegiant a phreifatrwydd. 
  • Darparu dull adrodd ar gyfer defnyddwyr (megis ceisiadau gan ddefnyddwyr i dynnu cynnwys i lawr). 
  • Darparu a chyhoeddi manylion cwynion a gweithdrefnau iawn i ddefnyddwyr. 
  • Cadw cofnodion clir a thryloyw i brofi cydymffurfiaeth. 

Pan fydd gwasanaeth yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio gan blant, bydd yn rhaid i’r darparwr gydymffurfio ymhellach â dyletswyddau ychwanegol sy’n ymwneud â hygyrchedd cynnwys niweidiol.  

Rôl Ofcom

Cawsom ein penodi fel rheoleiddiwr i orfodi camau yn erbyn darparwyr cyfryngau sy’n methu â chydymffurfio â’u dyletswyddau. Dyma’r tro cyntaf erioed i’r math hwn o waith gael ei wneud – y fframwaith rheoleiddio rydyn ni’n ei adeiladu yw’r cyntaf o’i fath a bydd yn gosod y safon ar gyfer y dyfodol. Mae gennym ni’r bobl orau o amrywiaeth o ddiwydiannau i’n harwain yn y gwaith hanfodol hwn, ac i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei wneud yn iawn. Mae ein tîm yn amrywiol ym mhob ystyr, ac yn dod ag arbenigedd o fyd o ddiwylliannau a llu o brofiadau proffesiynol.  

Mae’r gwaith yn sylweddol. A gellir rhannu cymhlethdod y rhaglen yn bum maes ffocws: 

Cefnogi’r broses ddeddfwriaethol

Mae hyn yn golygu ymgysylltu â’r ddeddfwriaeth ddrafft ei hun a chyfathrebu â’r Llywodraeth a’r Senedd. 

Paratoi ein dull rheoleiddio

Mae angen i ni fod yn barod i ymgynghori ar godau ymarfer a sut rydyn ni’n asesu cynnwys niweidiol a diogelwch ar-lein.

Meithrin ymddiriedaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd

Mae ymgysylltu â’n cynulleidfa darged yn gwneud yn siŵr eu bod yn deall ein rôl fel rheoleiddiwr. Ar ben hynny, rydyn ni’n meithrin hygrededd drwy gyflawni ein hamcanion. 

Sefydlu ein trefniadau gweithio

Rydyn ni’n blaenoriaethu dod â’r dalent briodol i mewn. Mae hyn yn golygu ein bod yn gwneud gwaith rhagorol ac yn rhoi’r prosesau a’r sgiliau sydd eu hangen ar waith i gyflawni ein dyletswyddau.  

Buddsoddi mewn technoleg

Mae angen i ni barhau i addasu ac ehangu ein harbenigedd mewn meysydd sy’n peri’r bygythiadau mwyaf. Mae cadw i fyny ag arloesedd digidol yn golygu y gallwn fod yn barod pan fydd cynnwys niweidiol yn datblygu.  

Fel sefydliad, mae popeth rydyn ni’n ei wneud yn gydgysylltiedig. Mae pob un o’n cydweithwyr yn agored i’r drefn lawn i sicrhau ein bod yn gallu gweithredu fel un. Bydd cyflawni’r gwaith hwn yn cael effaith bellgyrhaeddol ledled y byd. P’un a ydych chi’n mynd i wrandawiadau’r senedd neu’n creu’r algorithmau diogelwch diweddaraf, rydych chi’n rhan o’r darlun ehangach. Mae hwn yn gyfle i newid bywydau pobl er gwell, gan wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel i bawb.  

Strategaeth ac Ymchwil Y grŵp

zoom in icon
circle icon

Mae’r grŵp Strategaeth ac Ymchwil yn cyfrannu at waith Ofcom drwy ddatblygu dealltwriaeth, rhoi cipolwg, a phennu cyfeiriad. 

Mae’r grŵp yn gosod strategaeth gyffredinol Ofcom ac yn casglu llawer o’r sylfaen dystiolaeth sy’n sail i’n gwaith polisi. Mae’r grŵp yn cydweithio ar draws Ofcom, gan helpu timau i feddwl yn strategol am benderfyniadau polisi a manteisio’n llawn ar ymchwil a data Ofcom. 

Y gwahanol dimau 

Mae tri thîm craidd yn y grŵp Strategaeth ac Ymchwil. 

Y tîm Ymchwil a Gwybodaeth  

Mae’r tîm hwn yn darparu ‘siop un stop’ ar gyfer tystiolaeth, gwybodaeth a dadansoddi’r farchnad. Mae’n gwneud yn siŵr bod gan Ofcom y dystiolaeth fwyaf cadarn a dibynadwy yn sail i’w raglen bolisi – sy’n helpu i ddarparu dealltwriaeth fanwl o’r marchnadoedd rydyn ni’n eu rheoleiddio a’r bobl rydyn ni’n gweithio iddynt.  

Mae ein gwaith ymchwil i’r farchnad yn rhoi dealltwriaeth fanwl i ni o’r ffordd mae pobl yn defnyddio gwasanaethau cyfathrebu a’u hagweddau tuag atynt. Mae hyn yn ein helpu i wneud yn siŵr bod eu buddiannau wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud. 

Ein gwaith i gael gwybodaeth am y farchnad yw sail ein gwaith polisi gyda dealltwriaeth drylwyr o’r marchnadoedd rydyn ni’n eu rheoleiddio. Mae’n cynnig data cadarn ar sut mae cwmnïau’n gwasanaethu eu defnyddwyr, y refeniw maent yn ei ennill a’r buddsoddiadau maen nhw’n eu gwneud. 

Y tîm rhyngwladol  

Mae’r tîm hwn yn ein helpu i gadw mewn cysylltiad â llunwyr polisïau, rheoleiddwyr, a grwpiau defnyddwyr a’r diwydiant ledled y byd.  

Ym mhob rhan o’n gwaith, mae’r tîm rhyngwladol yn ystyried y byd o’n cwmpas a’r hyn y mae hynny’n ei olygu i Ofcom. Mae ei waith yn helpu i ddylanwadu ar y canlynol:   

• datblygu polisïau rheoleiddio rhyngwladol a fframweithiau yn y DU ac yn fyd-eang; a  

• arferion rhyngwladol a phenderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan sefydliadau neu reoleiddwyr mewn awdurdodaethau eraill – yn enwedig y rheini sy’n effeithio ar bobl y DU yn y meysydd rydyn ni’n eu rheoleiddio.   

Rydyn ni hefyd yn defnyddio ein rhaglen cysylltiadau rhyngwladol i wneud yn siŵr bod gan Ofcom lais byd-eang, sy’n ein galluogi i gyflwyno gwybodaeth a safbwyntiau i gynulleidfa ryngwladol ehangach.

Y tîm Strategaeth a Pholisi  

Mae’r tîm hwn yn chwarae rhan allweddol wrth bennu cyfeiriad strategol Ofcom a gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni yn erbyn ein prif flaenoriaethau. Mae’n rhoi’r wybodaeth a’r dadansoddiad strategol y mae Ofcom eu hangen i ragweld heriau a chyfleoedd y dyfodol mewn sector cyfathrebu sy’n newid yn gyflym. 

Dyma rai o’i brif gyfrifoldebau: 

  • gwybodaeth am y farchnad a pholisïau – deall sut gallai’r sector cyfathrebu ddatblygu yn y dyfodol er mwyn cyfrannu at ein rhaglen bolisi ehangach; 
  • cyflawni blaenoriaethau strategol Ofcom – arwain prosiectau mawr sy’n pennu cyfeiriad rheoleiddio yn y sector yn y dyfodol; 
  • arwain agweddau ar faterion polisi sy’n dod i’r amlwg – gweithio ar y cyd â thimau eraill i bennu safbwynt Ofcom ar faterion sy’n dod i’r amlwg yn ymwneud â defnyddwyr, polisi cyhoeddus a chystadleuaeth; a 
  • strategaeth gorfforaethol Ofcom – gweithio gydag uwch reolwyr a’r Bwrdd i bennu strategaeth Ofcom, diffinio ei flaenoriaethau ac asesu’r ddarpariaeth. 

Y Technoleg, Data ac Arloesi Grŵp

Mae’r grŵp Technoleg, Data ac Arloesi yn Ofcom yn gwneud yn siŵr bod pobl a busnesau yn y DU yn gallu defnyddio’r sianeli a’r llwyfannau cyfathrebu y maen nhw’n dibynnu arnynt bob dydd. Mae’n chwarae rhan ganolog yn y gwaith o drawsnewid ein gwaith rheoleiddio a pholisi – gan wneud yn siŵr ein bod yn cadw gam ar y blaen i’r datblygiadau diweddaraf yn y sector cyfathrebiadau. 

Mae ei waith yn ymwneud â sectorau hanfodol fel rhwydweithiau band eang a symudol, a gwasanaethau teledu a radio darlledu. Mae hefyd yn gyfrifol am ein helpu i reoleiddio llwyfannau rhannu fideos yn y DU a chanolbwyntio ar sut gallwn reoleiddio diogelwch ar-lein yn well – gan helpu pobl i fyw bywydau mwy diogel ar-lein.  

Mae hefyd yn ein helpu i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o sut y bydd technolegau newydd a datblygol fel deallusrwydd artiffisial, realiti estynedig, dysgu peirianyddol a dysgu dwfn yn chwarae rhan ar draws y sectorau rydyn ni’n eu rheoleiddio. 

Y gwahanol dimau

Mae amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous a heriol yn y grŵp Technoleg, Data ac Arloesi  

Y tîm Ymddiriedaeth a Diogelwch  

Mae’r tîm hwn yn allweddol i’r ffordd rydyn ni’n mynd ati i reoleiddio diogelwch ar-lein. Mae’r rolau o fewn y tîm hwn yn gofyn am bobl sy’n frwd dros ddeall y technolegau sy’n ysgogi ymddiriedaeth mewn gwasanaethau a llwyfannau ar-lein, ac sy’n awyddus i wneud y byd ar-lein yn fwy diogel.   

Y tîm Cyfathrebu a Thechnolegau’r Cyfryngau 

Y tîm hwn yw’r lle mae arbenigwyr yn gweithio i sicrhau bod Ofcom yn gallu rhagweld, neu hyd yn oed ddylanwadu ar y technolegau a fydd yn cefnogi rhwydweithiau cyfathrebu’r dyfodol, gan gynnwys rhwydweithiau symudol a band eang. 

Canolfan Arloesi Data 

Mae’r tîm hwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio data yn y ffordd fwyaf effeithiol – gan ein helpu i ddylunio, rheoli a galluogi arferion rheoleiddio o’r radd flaenaf. 

Y Tîm Polisi Technoleg 

Mae’r tîm hwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn dod â’n harbenigedd ym maes technoleg a datblygu polisi at ei gilydd yn y ffordd fwyaf effeithiol – gan fynd i’r afael â’r prif faterion polisi y mae datblygiadau newydd a chyfredol yn y gofod technoleg yn effeithio arnynt.  

Mae’r grŵp Technoleg, Data ac Arloesi yn agored i amrywiaeth o ymgeiswyr o bob cefndir a set sgiliau. Y peth pwysicaf yw eich bod yn frwd dros dechnoleg, ac yn agored i ffyrdd newydd o weithio. Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n awyddus i gael effaith ar y sector cyfathrebiadau yn y DU mewn sefydliad cefnogol sy’n cael ei yrru gan werth. Dyma rai o’r sgiliau neu’r profiadau a allai fod yn berthnasol: 

  • sgiliau academaidd/ymchwil; 
  • dylunio/datblygu/profi cynnyrch; 
  • delweddau cyfrifiadurol; 
  • hunaniaeth ddigidol; 
  • technolegau ymddiriedaeth a diogelwch; 
  • datblygu safonau; 
  • modelu, dadansoddi a gwerthuso technolegau cyfathrebu neu’r cyfryngau; 
  • profiad ymarferol o ddefnyddio technolegau mewn cynnyrch neu rwydweithiau cyfathrebu; a 
  • pensaernïaeth data, peirianneg a dadansoddi. 

gorfforaethol Yr adran

Mae ein grŵp corfforaethol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o helpu Ofcom i redeg yn ddidrafferth. Mae’n ein helpu i gefnogi cydweithwyr sy’n gweithio mewn adrannau a thimau eraill ar draws Ofcom, yn ogystal â’n cefnogi i barhau i dyfu a gweddnewid.

Archwiliwch wahanol dimau

Mae amrywiaeth o swyddi a chyfleoedd yn y Grŵp Corfforaethol.

Gwasanaethau Busnes a Rheolaeth Ariannol

Mae’r tîm Gwasanaethau Busnes a Rheolaeth Ariannol yn rheoli amryw o feysydd ariannol a chysylltiedig, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr a sefydliadau allanol.

Mae gwaith y tîm yn cynnwys rheoli ein gofynion incwm a chyllido, adrodd ariannol a threthu, gwneud yn siŵr bod y rheolaethau ariannol allweddol yn gweithredu’n effeithiol, archwilio mewnol ac allanol, rheoli asedau sefydlog, y gyflogres a threuliau, talu ein cyflenwyr, casglu ein derbynebau a rheoli’r arian yn ein cyfrifon banc. Mae hefyd yn cefnogi ein hymddiriedolwyr pensiwn â buddion wedi’u diffinio gyda’u gwaith ar reoli a dadrisgio’r rhwymedigaethau hirdymor hyn.

Tîm Cyswllt Defnyddwyr

Mae’r Tîm Cyswllt Defnyddwyr yn gweithredu fel llygaid a chlustiau Ofcom. Dyma’n cefnogaeth rheng flaen i’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau rydyn ni’n eu rheoleiddio, a’i waith yw sicrhau bod y defnyddwyr sy’n cysylltu â ni yn cael y gwasanaeth gorau posibl.

Mae’r tîm yn delio dros y ffôn ac yn ysgrifenedig gydag aelodau o’r cyhoedd.

Mae’r Tîm Cyswllt Defnyddwyr hefyd yn helpu diogelu defnyddwyr drwy gofnodi cwynion yn gywir. Mae hyn yn helpu i lywio ein gwaith rheoleiddio, ymchwilio a gorfodi nawr ac yn y dyfodol. Mae’r Tîm Cyswllt Defnyddwyr hefyd yn cefnogi hyn drwy roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar ddefnyddwyr er mwyn datrys eu hanghydfodau unigol.

Cyllid

Mae’r tîm cyllid yn cynnwys Cynllunio Busnes ac Adrodd, Masnachol, Rheoli Risg, a Gwasanaethau Busnes a Rheolaeth Ariannol.

Mae’r tîm Cynllunio Busnes ac Adrodd yn gyfrifol am gynllunio ariannol, cyllidebu, rhagweld ac adrodd ar reolaeth yn Ofcom, ac mae’n gweithio ochr yn ochr â chyfarwyddwyr grŵp y sefydliad a’u timau i gyflawni’r rhain. Mae’r tîm yn rhoi cefnogaeth ac arbenigedd i’r sefydliad i gynllunio a rhagweld y gwaith o gyflawni prosiectau a rhaglenni, ac i adolygu eu perfformiad yn ddiweddarach. Mae’n canolbwyntio ar wariant a rheolaethau ariannol, dyrannu adnoddau a chyflawni allbynnau.

Masnachol

Y tîm Masnachol sy’n pennu’r strategaeth gaffael ar gyfer Ofcom ac mae’n bennaf gyfrifol am ein holl wariant gyda chyflenwyr. Mae’n gyfrifol am ddylunio a rhoi rheolaethau, prosesau a gweithdrefnau priodol ar waith. Amcan cyffredinol y tîm yw darparu gwerth am arian ac arferion gorau masnachol gan sicrhau cydymffurfiad â chyfraith caffael cyhoeddus a diogelu enw da Ofcom.

Rheoli Risg

Mae’r tîm hwn yn gyfrifol am Fframwaith Rheoli Risg Ofcom. Mae’n gweithio gyda’n tîm Adrodd Ariannol, Partneriaid Busnes Cyllid a Hyrwyddwyr Risg Busnes i wneud yn siŵr ein bod yn ymwybodol o’r holl risgiau grŵp a’r rhai strategol ac yn gallu gweithredu arnynt pan fo angen. Mae’r tîm yn helpu cydweithwyr ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch a sicrwydd, ac mae hefyd yn rhoi arweiniad ar faterion yswiriant sy’n ymwneud ag Ofcom.

Cyfathrebiadau

Mae dulliau cyfathrebu da a chlir wrth galon popeth mae Ofcom yn ei wneud. Mae’r tîm Cyfathrebu’n ein helpu i gyfathrebu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae gan y tîm dri maes gwaith: Cyfathrebu Allanol; Cyfathrebu Mewnol; a’r tîm Digidol a Chreadigol.

Llywodraethu ac Atebolrwydd

Mae swyddogaeth Ysgrifenyddiaeth Ofcom yn cael ei rheoli gan y tîm Llywodraethu ac Atebolrwydd, sy’n rhan o’r Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol.

Mae’n gyfrifol am reoli trefniadau llywodraethu Ofcom, gan gynnwys:

  • aelodaeth y bwrdd a phwyllgorau;
  • cyfarfodydd y bwrdd a phwyllgorau;
  • rhyddid gwybodaeth;
  • diogelu data;
  • rheoli gwybodaeth;
  • rheoli dysg; a
  • rhoddion a lletygarwch.

Y Gwledydd  

Mae gan Ofcom ddyletswydd statudol i ystyried safbwyntiau a buddiannau’r rheini sy’n byw mewn gwahanol rannau o’r DU.

Mae ein gweithrediadau yn y gwledydd yn cael eu harwain gan uwch gyfarwyddwyr yng Nghaeredin, Caerdydd, Belfast a Llundain. Mae ein swyddfeydd cenedlaethol yn gallu defnyddio adnoddau llawn y sefydliad cyfan i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar un rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae’r gweithrediadau hynny hefyd yn gwneud yn siŵr bod barn, anghenion ac amgylchiadau arbennig y gwledydd yn cael sylw gan Ofcom.

Mae pwyllgor cynghori ym mhob gwlad yn rhoi gwybodaeth fanwl ac arbenigol i Ofcom am yr heriau a wynebir gan bobl yng ngwahanol rannau o’r DU. Mae buddiannau cenedlaethol hefyd yn cael eu cynrychioli gan aelodau Bwrdd Cynnwys a Phanel Defnyddwyr Cyfathrebiadau Ofcom.

Pobl a Thrawsnewid  

Mae’r tîm Pobl a Thrawsnewid yn cefnogi cydweithwyr ar eu taith yn Ofcom – o’r cam recriwtio i gyflawni eu rôl, ac i’r adeg maen nhw’n penderfynu symud ymlaen.

Mae hyn yn cynnwys dysgu a datblygu, amrywiaeth a chynhwysiant, a chamu ymlaen mewn gyrfa, yn ogystal â chefnogi llesiant a darparu gwybodaeth ymarferol am gyflog a buddion.

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Mae’r tîm TGCh yn cyflawni rôl allweddol wrth helpu Ofcom i weithredu’n effeithiol. Maen nhw’n gyfrifol am weithredu a chynnal polisïau a gweithdrefnau technoleg sy’n rheoli sut y defnyddir seilwaith technoleg – mae hyn yn cynnwys cadw ein systemau’n ddiogel. Mae hefyd yn rheoli ein partneriaid allanol i gyflawni fel un tîm TGCh i’r sefydliad. Mae’r tîm TGCh hefyd yn darparu cymorth technegol i’n cydweithwyr, gan sicrhau bod ganddynt y dechnoleg a’r adnoddau angenrheidiol i weithio’n effeithlon, lle bynnag y bônt.

Polisi Cyhoeddus

Mae’r tîm Polisi Cyhoeddus yn ymgysylltu â llunwyr polisi allanol a seneddwyr i egluro gwaith a dull gweithredu Ofcom, a sut rydyn ni’n helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau polisi cyhoeddus mawr sy’n wynebu’r DU.

Mae ei waith yn amrywiol iawn – ar un llaw mae’r tîm yno i ymateb i’r hyn sy’n digwydd yn y Llywodraeth a’r Senedd gan ymgysylltu ar faterion polisi pwysig y dydd. Ac ar yr un pryd mae yno i’n helpu ni i ragweld materion y gallai fod angen eu hegluro neu eu rheoli mewn ffordd ragweithiol yn y dyfodol. Gall fod yn anodd rhagweld y materion hyn, ond yn gyffredinol maen nhw’n ddatblygiad newydd mewn maes penodol sy’n debygol o fod yn ddadleuol a thynnu sylw’r cyfryngau. Yn yr achosion hynny, bydd ein tîm Polisi Cyhoeddus yn dod i mewn cyn gynted â phosibl i’n helpu i ymateb yn brydlon.

SBECTRWM Grwp

circle icon
icon

Mae’r sbectrwm radio (y tonnau anweledig sy’n galluogi technoleg ddi-wifr) yn adnodd sy’n hanfodol i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau masnachol a chyhoeddus, ond nid yw’n ddi-ben-draw. Tasg Ofcom yw gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei defnyddio er budd pawb yn y DU. 

Sbectrwm yw sail i’n bywydau modern. Hebddo, ni fyddai gennym ffonau symudol, teledu a radio, radar na gwasanaethau brys.   Mae’r twf mewn cysylltedd di-wifr yn newid y ffordd rydyn ni’n byw ac yn gweithio ac yn gosod heriau newydd i’n grŵp Sbectrwm.  

Gwasanaethau di-wifr yw un o feysydd mwyaf deinamig economi’r DU, gyda rhaglenni a defnyddiau newydd yn dod i’r amlwg, gan gynnwys dronau ac awtomatiaeth ym meysydd diwydiant a gofal iechyd.  

Gan na allwn ni greu mwy o sbectrwm radio, rhaid i ni wneud y defnydd mwyaf effeithlon ohono er mwyn galluogi gwasanaethau presennol i dyfu ac i ganiatáu rhaglenni newydd ac arloesol. Dyma rôl y Grŵp Sbectrwm – sef cynllunio a rheoli’r defnydd gwahanol o sbectrwm i hyrwyddo’r gwerth cymdeithasol ac economaidd gorau i’r DU. 

Rydyn ni’n defnyddio dull strategol i reoli’r adnodd gwerthfawr hwn gan gymysgu mecanwaith y farchnad ac ymyrraeth reoleiddiol fel y bo’n briodol i ddatblygu a gweithredu pob agwedd ar reoli sbectrwm yn y DU. Oherwydd bod technoleg ddi-wifr yn cael ei defnyddio’n fyd-eang, rydyn ni hefyd yn cynrychioli buddiannau’r DU yn rhyngwladol. Rydyn ni’n gweithio i gadw’r tonnau awyr yn rhydd o ymyriant er mwyn i’r ystod gynyddol o raglenni a gwasanaethau sydd angen mynediad i’r sbectrwm radio allu gweithredu’n effeithiol. 

Mae gan ein cydweithwyr yn y grŵp sbectrwm lawer o sgiliau amrywiol ac maent wedi cael gwahanol brofiadau – gan gynnwys peirianwyr amledd radio, arbenigwyr technoleg, arweinwyr polisi, negodwyr rhyngwladol, rheolwyr cysylltiadau a rhanddeiliaid, a thimau maes gweithredol. Yr hyn sydd gan bob un ohonom yn gyffredin yw meddwl ymholgar, awydd i ddatrys problemau ac, yn bwysicaf oll, y gallu i gydweithio. 

Y gwahanol dimau

Mae llawer o wahanol rolau a meysydd gwaith yn y grŵp Sbectrwm. 

Datblygu polisi a strategaeth  

Rydyn ni’n gweithio gydag amrywiaeth eang o ddiwydiannau ac academyddion i ddeall sut mae tueddiadau yn y farchnad a’r newid yn y galw yn siapio anghenion sbectrwm yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys deall llwybr esblygiadol y defnydd presennol o sbectrwm yn ogystal â chanfod galw newydd sy’n dod i’r amlwg. 

Trafodaethau rhyngwladol  

Mae llawer o benderfyniadau ynghylch defnyddio sbectrwm yn cael eu gwneud yn fyd-eang ac rydyn ni’n meithrin cysylltiadau rhyngwladol yn y maes hwn ac yn negodi gyda’n cymheiriaid o bob cwr o’r byd i wneud yn siŵr bod fframweithiau rheoleiddio perthnasol a phenderfyniadau cysylltiedig ynghylch sbectrwm rhyngwladol yn adlewyrchu lles gorau’r DU. 

Rheoli a thrwyddedu sbectrwm 

Rydyn ni’n cefnogi defnyddwyr sbectrwm bob dydd i ddeall beth y mae ganddynt awdurdod i’w wneud a monitro eu hanghenion sbectrwm wrth iddynt ddatblygu. Rydyn ni’n rheoli newidiadau i’w gofynion ac yn cynnal bron i hanner miliwn o drwyddedau sbectrwm ynghyd â’r adnoddau technegol a gweinyddol sy’n gwneud hyn yn bosibl. 

O safbwynt ein strategaethau yn y dyfodol ac i reoli ymyriant, mae’n hanfodol ein bod yn cadw cofnod o drwyddedeion sbectrwm yn y DU, gan wneud yn siŵr ein bod yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am ddefnyddio pa amleddau radio. 

Cynllunio a pheiriannu sbectrwm  

Rydyn ni’n defnyddio ystod eang o arbenigeddau technegol i fonitro a gwneud yn siŵr bod gwahanol ddefnyddwyr sbectrwm yn gallu cydfodoli heb ymyriant.  I wneud hyn, mae angen gwybodaeth am sut mae gwahanol systemau radio’n gweithio, er enghraifft ar draws rhwydweithiau symudol, darlledu a lloeren a hefyd rheoli traffig awyr a radar. Rydyn ni’n modelu sut mae gwahanol dechnolegau radio’n rhyngweithio â’i gilydd i lywio ein penderfyniadau rheoleiddio a hefyd yn gwneud gwaith cynllunio manwl i alluogi gwasanaethau i rannu sbectrwm mewn lleoliadau penodol 

Gwneud yn siŵr bod sbectrwm yn cael ei ddefnyddio’n gyfreithlon ac yn effeithlon 

Rydyn ni’n gweithio ledled y wlad i fonitro’r defnydd o sbectrwm radio, yn ymchwilio i achosion ymyriant sy’n effeithio ar ddefnyddwyr di-wifr, yn canfod defnydd di-drwydded, ac yn deall defnydd er mwyn llywio polisi yn y dyfodol. Rydyn ni hefyd yn monitro’r mathau o offer radio sydd ar y farchnad, a phan fydd offer yn cael ei werthu neu ei ddefnyddio’n anghyfreithlon, rydyn ni’n cymryd camau i fynd â’r offer i ffwrdd, gan gynnwys cymryd camau gorfodi lle bo angen.   

Broadcasting & Media Group

The Broadcasting and Media Group supports and serves a vibrant sector of audiences from TV to radio to video-on demand. We’re helping UK media evolve to meet the changing needs of viewers and listeners by shifting focus to the growing need for online safety in the UK.
We support in a number of areas.

We support in a number of areas:

Broadcasting License and Programme Operations

We make sure broadcasters continue to provide quality programmes that appeal to the most diverse audiences and support the effective delivery of work across the group..

Content Policy

We help to make sure audiences are well served by the UK broadcasting sector. In a competitive market, we aim to provide a range of broadcast and online content from public service broadcasters like the BBC, ITV, Channel 4 and Channel 5.

Standard and Audience Protection

We are also responsible for setting and enforcing content standards. This important work makes sure audiences across the services we regulate are protected at all times

Ein lleoliad

Pencadlys 

Mae ein pencadlys yn Llundain ond mae gennym swyddfeydd ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n deall bod eich amgylchedd gwaith yr un mor bwysig â’r lleoliad a’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw. Dyna pam ein bod wedi sicrhau bod pob un o’n swyddfeydd yn lleoedd modern a golau i weithio ynddynt.  

Y Gwledydd 

Mae gennym swyddfeydd ym mhob un o wledydd y DU, yn ogystal â’n pencadlys yn Llundain a safleoedd eraill yn Lloegr. Mae swyddfeydd y gwledydd yng Nghaerdydd, Belfast a Chaeredin yn cael eu harwain gan gyfarwyddwr penodol ar gyfer pob gwlad. Mae’r timau yn y lleoliadau hyn yn gweithio i sicrhau bod gan Ofcom gynrychiolaeth dda ym mhob gwlad; a bod materion a nodweddion unigryw pob gwlad yn cael eu cynrychioli yn Ofcom. Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod ein gwaith yn cael ei dargedu, ei fod yn effeithiol a’i fod yn cael ei ddeall yn dda ledled y DU. 

Manceinion 

Dathlodd ein swyddfa ym Manceinion ei phen-blwydd cyntaf ym mis Medi 2022, ac mae’n tyfu o nerth i nerth. Rydyn ni’n dîm o dechnolegwyr, arbenigwyr data, economegwyr, cyfreithwyr, arbenigwyr polisi diogelwch ar-lein, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ym maes gweithrediadau a phobl.  Ar hyn o bryd mae gennym dros 70 o aelodau, gyda’r bwriad o ddyblu hyn dros y blynyddoedd nesaf. 

Mae ein swyddfa yn adeilad modern o’r radd flaenaf yn Circle Square yng nghanol Oxford Road Corridor ym Manceinion.  

Swyddfeydd Rhanbarthol 

Mae gennym hefyd swyddfeydd rhanbarthol yn Warrington, a Birmingham a Baldock a Birmingham Spectrum. 

Amrywiaeth a chynhwysiad

Yn Ofcom rydyn ni’n benderfynol ein bod am wneud popeth allwn ni i hybu amrywiaeth a chydraddoldeb yn ein sefydliad ac yn y sectorau ehangach rydyn ni’n eu rheoleiddio. Mae’n hanfodol i’n helpu ni i gyflawni ein pwrpas sefydliadol o sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb.
Mae angen i’n sefydliad gynrychioli demograffeg amrywiol y DU, felly mae’n hanfodol ein bod yn creu diwylliant cynhwysol lle mae cydraddoldeb yn sail i bopeth a wnawn.

Ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad
Ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad
Ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad

Ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad

Mae amrywiaeth a chydraddoldeb yn hanfodol i’r ffordd rydyn ni’n gweithredu, fel cyflogwr ac fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU. Mae ein strategaeth yn amlinellu gwahanol flaenoriaethau ein gwaith, gan gynnwys targedau sy’n ymwneud â’n gweithlu ac amlinelliad o’n gweledigaeth fel sefydliad.

Rydyn ni’n cyhoeddi adroddiad amrywiaeth blynyddol sydd ar gael ar ein prif wefan.

Dyma ein targedau ar gyfer 2026:

  • Ethnigrwydd mewn rolau uwch: 16% o’n harweinwyr ar lefel uwch yn dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig.
  • Cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn rolau uwch: Cydbwysedd cyfartal rhwng y rhywiau ar lefelau uwch.
  • Anabledd: 15% o’n cydweithwyr yn anabl.
  • Byrddau a phwyllgorau: Cydbwysedd cyfartal rhwng y rhywiau a lefel gymharol debyg i’r poblogaethau perthnasol o ran anabledd (15%) ac ethnigrwydd (10%).

Yn ogystal â’r targedau hyn, rydyn ni’n canolbwyntio ar ehangu ein hamrywiaeth economaidd-gymdeithasol ac o ran dosbarth, yn ogystal â chynyddu ein hamrywiaeth ranbarthol, gyda mwy o gydweithwyr wedi’u lleoli y tu allan i Lundain. Mae’r rhain yn feysydd arbennig o bwysig i helpu i sicrhau bod ein gwaith rheoleiddio’n cael ei lywio gan bobl sydd ag ystod eang o brofiadau, cefndiroedd a safbwyntiau.

Ein gweledigaeth

Mae’r weledigaeth yn nodi’r egwyddorion y tu ôl i’r ffordd rydyn ni’n datblygu ein diwylliant, gan ddod â thegwch i’r ffyrdd rydym yn gweithredu, a sicrhau mwy o gynhwysiad. Mae cynhwysiad i ni yn fwy na dim ond y naw nodwedd sy’n cael eu gwarchod gan y gyfraith – rydyn ni’n golygu bod pawb, o bob cefndir a phrofiad bywyd, yn cael eu cynrychioli. Rydyn ni’n cydnabod bod gan bawb fan cychwyn gwahanol mewn bywyd, a byddwn yn creu cyfleoedd gyda hyn mewn golwg.

RYDYN NI’N CYMRYD CYFRIFOLDEB PERSONOL

Mae amrywiaeth a chynhwysiad yn nod a chenhadaeth bersonol i bob un ohonom. Mae pob un ohonom yn chwarae ein rhan, ni waeth pwy ydyn ni, beth rydyn ni’n ei wneud, a ble rydyn ni wedi’n lleoli.

RYDYN NI’N WIRIONEDDOL AMRYWIOL

Rydyn ni’n adlewyrchu’r gymdeithas amrywiol yr ydym yn ei gwasanaethu, mewn sawl ffordd wahanol. Mae angen inni wneud hynny er mwyn gwerthfawrogi anghenion amrywiol pobl yn well a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu.

MAE EIN HARWEINWYR YN GOSOD ESIAMPL

Mae ein harweinwyr yn gosod esiampl i bobl eraill o ran sut mae arddel ein gwerthoedd. Maen nhw’n cynnwys amrywiaeth a chynhwysiad yn eu penderfyniadau bob dydd i wneud Ofcom yn lle gwych i weithio i’n cyd-weithwyr, ac i sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb..

RYDYN NI’N GYSYLLTIEDIG Â CHYMUNEDAU

Mae gan yr holl gyd-weithwyr gysylltiad agos â chymunedau a grwpiau sy’n cael eu tan-wasanaethu, er mwyn inni allu clywed lleisiau defnyddwyr a dysgu am y gymdeithas rydyn ni’n ei gwasanaethu. Rydyn ni’n defnyddio ein manteision ein hunain i roi hwb i eraill a chreu canlyniadau cymdeithasol cadarnhaol. Rydyn ni’n annog cyd-weithwyr i gymryd rhan weithredol mewn meysydd sy’n bwysig iddynt..

RYDYN NI’N NATURIOL GYNHWYSOL

Mae ein diwylliant yn golygu bod pawb yn teimlo eu bod yn perthyn, yn cael eu gwerthfawrogi a bod ganddynt lais. Rydyn ni’n deall ac yn dathlu sawl math o amrywiaeth, gan gynnwys cyfuniadau o hunaniaethau hefyd. Gwyddom fod pob un ohonom yn cynnig amrywiaeth i Ofcom mewn ffyrdd gwahanol a’n bod ni i gyd yn fwy na dim ond ein nodweddion.

RYDYN NI’N DEG DRWY DDYLUNIAD

Rydyn ni’n mynd ati’n fwriadol i gynllunio a monitro’r ffordd rydyn ni’n gwneud pethau, y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud a’r systemau rydyn ni’n eu defnyddio fel eu bod yn deg ac yn gyfiawn i’n cydweithwyr ac i’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu. Gwyddom fod angen weithiau inni gefnogi pobl yn wahanol, er mwyn eu trin yn gyfartal.

Amrywiaeth a chynhwysiad wrth gyflogi

Rydyn ni’n monitro ein polisïau a’n harferion yn helaeth drwy arolygon ymysg cydweithwyr, meincnodi allanol a chynnal archwiliad cyflog cyfartal bob dwy flynedd. Mae gwasanaethau meincnodi allanol yn ein galluogi i gymharu ein prosesau busnes ag arferion gorau yn y diwydiant, ac i ddeall sut hwyl rydyn ni’n ei chael arni o ran cyflawni ein gweithgareddau i hybu amrywiaeth mewn cyflogaeth.
I gefnogi ein hamcanion o ran recriwtio gweithlu mwy amrywiol, rydyn ni’n adolygu ein prosesau a’n methodolegau recriwtio yn rheolaidd i sicrhau bod y rhain yn gynhwysol, yn deg ac yn dryloyw.